主播大秀

Betsi Cadwaladr

top
Betsi Cadwaladr

Y ferch o'r Bala aeth yn nyrs i faes y gad yn Rhyfel y Crimea.

Teithiodd Betsi ar draws y byd fel morwyn llong cyn gwasanaethu efo Florence Nightingale yn Rhyfel y Crimea.

Ganed Elizabeth Davies, neu Betsi, yn Llanycil, ger Y Bala yn 1789 ac roedd yn ferch i bregethwr Methodist. Ond roedd hi'n awyddus iawn i weld y byd ac yn 14 oed aeth i Lerpwl i weini. Fe gafodd gyfle i weld y byd fel morwyn a chynorthwywraig i gapteiniaid llong a'u teuluoedd cyn setlo yn Llundain a hyfforddi i fod yn nyrs.

Ar 么l darllen am ddioddefaint milwyr Prydain yn Rhyfel y Crimea, llawer ohonynt yn marw o deiffoid ac anafiadau, penderfynodd Betsi ymuno 芒'r gwasanaeth nyrsio milwrol i ofalu amdanyn nhw. Er iddi weithio efo Florence Nightingale ei hun am gyfnod, doedd hi ddim yn rhy hoff o'i dulliau disgybledig haearnaidd.

Symudodd Betsi i reng flaen rhyfel y Balaclafa ac yno yr enillodd enw iddi'i hun am anwybyddu awdurdod er mwyn gwneud yn siwr bod y milwyr yn derbyn cyflenwadau.

Gadawodd ei gwaith pan ddirywiodd ei hiechyd a bu farw yn 1860.


Bywyd

John Charles

Pobl

A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.