主播大秀

Catrin%20o%20Ferain -Mam Cymru

top
/cymru/hanes/safle/themau/enwogion/Catrin%20o%20Ferain

Priodi pedair gwaith, cenhedlu chwe phlentyn a llu o chwedlau. Petai'r holl hanesion am Catrin%20o%20Ferain, neu Catrin Tewdwr, yn wir, yna byddai gan Gymru ei Lucrezia Borgia ei hun!

Cafodd ei phortreadu fel rhyw bry cop y weddw ddu, creadur sy'n dueddol o ladd pob cymar a gaiff.

Am iddi briodi bedair gwaith - chwech, a hyd yn oed saith, gwaith yn 么l rhai hanesion - golygai hynny ynddo'i hun ei bod yn darged i feirdd a haneswyr amheugar.

Dywedid iddi lofruddio rhwng un a chwech o'i gw欧r, rhai ohonynt wrth iddi arllwys plwm tawdd i'w clustiau.

Mynnai rhai i'w g诺r olaf, y chweched (neu'r seithfed), osgoi'r un ffawd drwy ei chadw hi'n gaeth a'i llwgu i farwolaeth.

Y stori a adroddir amlaf amdani yw iddi, ar ei ffordd i angladd ei g诺r cyntaf, addo priodi ei hail 诺r, ac ar ei ffordd allan addo priodi trydydd g诺r petai'r ail yn marw, ond dengys cronoleg hanesyddol fod hyn hefyd yn gelwydd.

Roedd hanesion o'r fath yn frith yn y cyfnod, rhyw fath o stor茂au Mills and Boon yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn wir, roedd hanesion o'r fath i'w cael ledled y byd.

Dechrau'r chwedlau

Thomas Pennant
Thomas Pennant

Fel yn achos cynifer o hanesion ffug y cyfnod, tybir mai Thomas Pennant, wrth groniclo'i daith drwy Gymru, oedd un o'r rhai cyntaf i ledaenu'r stor茂au am Catrin.

Mynnai hwnnw i Syr Richard Clough, wrth i Catrin fynd i angladd ei g诺r cyntaf, John Salisbury, sibrwd yn ei chlust yr hoffai ei phriodi. Yna, wrth iddi fynd o'r angladd, gofynnodd Morris Wynn o Wydir am ei llaw.

Gwrthododd Catrin hwnnw ond gan ychwanegu, petai Clough yn marw, y byddai'n barod i'w briodi. Erys un ffactor bwysig sy'n gwahanu stori Thomas Pennant oddi wrth y gwir.

Yn y cyfnod hwnnw ni fyddai gweddw'n cael mynd ar gyfyl gwasanaeth angladdol; yn wir, ni fyddai unrhyw fenyw'n cael bod yn bresennol.

Roedd y gwir am Catrin - neu o leiaf gymaint o'r gwir ag sy'n bosibl dod o hyd iddo - yn dra gwahanol. Roedd Catrin%20o%20Ferain yn un o fenywod harddaf ei dydd, fel y dengys portread ohoni gan Adrian van Cronenburgh a beintiwyd yn 1568 pan oedd hi'n 34 mlwydd oed. Roedd hi'n wyres i Harri VII ac yn fenyw ddeallus a phwerus.

Nifer o briodasau

Oedd, roedd gwir yn y ffaith iddi briodi sawl gwaith. Doedd hynny ddim yn anghyffredin o gwbl yn y cyfnod dan sylw, mwy nag ydyw heddiw. Y gwahaniaeth mawr yw mai ysgaru yw'r prif reswm dros derfynu priodasau heddiw, tra mai marwolaeth oedd yr achos yng nghyfnod Catrin. Roedd afiechydon yn rhemp.

Ffactor arall dros amlbriodi oedd nad cariad, yn aml iawn, fyddai wrth wraidd priodas ond yn hytrach barhad llinach a chyfoeth. Yn wir, dau ddewis oedd gan ferched fel Catrin - priodi neu fynd i leiandy - ac o ystyried y ddau ddewis, bu Catrin yn hynod ddoeth.

Er mwyn parhau llinach deuluol byddai priodasau'n cael eu trefnu, rhywbeth a ddirmygir yng ngwledydd y gorllewin heddiw pan fo'n digwydd rhwng pobloedd yn India a Phacistan, ond roedd parhad llinach a gwehelyth yn fater holl bwysig bryd hynny.

O'r herwydd trefnid priodasau'n aml pan fyddai'r ddarpar briodferch a'r darpar briodfab yn dal yn blant. Byddai'r ddau deulu yn dod at ei gilydd i wneud y trefniadau, gyda thad y priodfab yn darparu cartref iddynt a threfnu incwm ar gyfer y p芒r ifanc a phennu faint o'r stad fyddai'n eiddo iddynt.

Syr Richard Clough
Syr Richard Clough

Cariad yn fonws

Yn ogystal, byddai'n pennu maint y gwaddol a delid i'r ferch petai hi'n cael ei gadael yn weddw. Mewn gwirionedd, cytundeb yn dibynnu ar arian ac eiddo oedd priodi - ceid cytundeb cyfreithiol rhwng y ddau deulu. Lles teuluol oedd y ffactor bwysicaf. Pe deuai cariad yn ffactor ychwanegol wedyn, yna bonws fyddai hynny.

Ganwyd Catrin Tewdwr yn 1534 yn ferch i Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville. A do, fe briododd hi fwy nag unwaith - bedair gwaith i fod yn fanwl gywir - ond nid y ffaith iddi briodi gymaint o weithiau oedd wrth wraidd y celwyddau a ddywedwyd amdani.

Yr hyn a wnaeth Catrin yn destun sgandal oedd iddi greu eiddigedd drwy briodi'n dda bob tro, gan gynyddu ei dylanwad a'i grym gyda phob uniad. Mae'n wir mai ei g诺r cyntaf oedd John Salisbury, neu Salsbri. John Salsbri oedd mab hynaf Syr John Salisbury, Lleweni, Canghellor a Siryf Dinbych.

Roedd Catrin eisoes yn berchen ar stadau M么n a Berain, sef ymron i bedair mil o erwau, ac roedd ei g诺r i etifeddu tiroedd ei dad yn Ninbych a Fflint. Bu farw Salisbury ac ailbriododd Catrin 芒 Syr Richard Clough, asiant masnachol yn Antwerp, yn 1567.

Gweithio gyda'r diafol?

Bach y Graig
Bach y Graig

Bu Clough ar bererindod i Gaersalem, a hynny a'i gwnaeth yn Farchog o'r Beddrod Sanctaidd. Daeth yn ddyn dylanwadol a chyfoethog, ac ef a roddodd gychwyn i'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain lle gweithiai hefyd fel asiant gwleidyddol dros y Frenhines.

Daeth hynodrwydd arall i ran Clough hefyd wrth iddo godi'r t欧 brics cyntaf yng Nghymru, Bach y Graig. Codwyd y t欧 mor gyflym fel i rai gredu fod Clough yn gweithio law yn llaw 芒'r diafol. Bu farw Clough yn 1570 ac aeth Catrin yn 么l i Ferain.

Y nesaf i ofyn am ei llaw, yn aflwyddiannus, oedd John Vaughan o'r Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin. Yn hytrach, priododd Catrin 芒 Morris Wynn o Wydir, un o Dywysogion Gwynedd a disgynnydd i Rhodri Fawr, Tywysogion Powys, Iarll Salisbury a Llywelyn Fawr. Fe'u priodwyd naill ai ym mis Ionawr 1572 neu 1573.

Yn wir, bu uniad arall yn fodd o dynhau'r cwlwm hwn ymhellach wrth i fab Catrin o'i phriodas gyntaf, briodi 芒 merch i Morris Wynn o'i briodas gyntaf yntau.

Mam Cymru

Castell Rhuthun
Castell Rhuthun

Bu farw Morris Wynn ar 10 Awst 1580. Gadawodd i Catrin brydlesau a ffermydd yn arglwyddiaeth Dinbych a Sir Feirionnydd, yn cynnwys ei eiddo yn Llannefydd.

Un o dystion ewyllys Morris Wynn oedd Edward Thelwell, Plas y Ward, ac ef fyddai ei phedwerydd g诺r.

Roedd Thelwell yn ddisgynnydd i'r Tiwtoniaid a'r Normaniaid a dderbyniodd Ddyffryn Clwyd fel rhodd gan Edward y Cyntaf, yn cynnwys Castell Rhuthun, a ddaeth yn gartref i'r teulu.

Unwaith eto trefnwyd priodas ddwbl - Catrin ac Edward, a merch Catrin o'i thrydedd briodas a Simon, mab Edward o'i briodas gyntaf. Hon fyddai priodas olaf Catrin. Bu farw ddiwedd Awst 1591. Er iddi gael pedwar g诺r, nid oedd ond ychydig dros ei hanner cant oed.

Gadawodd chwech o blant, tua 16 o lysblant, tua 32 o wyrion ac wyresau ac ugeiniau o ddisgynyddion eraill. O ganlyniad fe'i galwyd yn Fam Cymru.

Gan Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.