主播大秀

David Davies, Llandinam

top
Gregynog, cartre'r Teulu Davies

Mae stori bywyd y dyn hwn a'i daith o garpion i gyfoeth yn un anhygoel. Daeth o gefndir tlawd iawn yn Sir Drefaldwyn i fod yn un o fentrwyr mwyaf llwyddiannus y Gwrthryfel Diwydiannol.

O Garpion i Gyfoeth

David Davies
David Davies

Dyma ddyn wnaeth ennill ei ffortiwn drwy rheilffyrdd, glo a dociau'r Barri.

Yr hynaf o naw o blant, ganwyd David Davies ar Rhagfyr 18, 1818, mewn bwthyn bach o'r enw Draintewon ym mhentref Llandinam. Symudodd ei rieni, David ac Elizabeth, yno o bentref Lledrod yng Ngheredigion gan chwilio am fywyd gwell. Roedd ei dad yn ffermwr tenant fach oedd yn ychwanegu rhywfaint i'w incwm drwy gymryd gwaith tymhorol fel llifiwr.

Mynychodd David Davies ysgol y pentref oedd yn cwrdd yn Eglwys y plwyf. Er ei fod yn blentyn galluog, fe adawodd ysgol yn 11 oed er mwyn helpu ei dad, ac am yr ugain mlynedd nesaf bu'n gweithio'r tir - yn ffermio ac yn llifio pren. Yn 1884 prynodd fferm 150 acer o'r enw Neuadd Fach, a dwy flynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn 27 oed, prynodd fferm arall eto. Pan fu farw ei dad yn 1846 symudodd ei fam i Neuadd Fach.

Yn 1850 symudodd David Davies i fferm Gwernerin yn Nyffryn Hafren, ardal oedd yn adnabyddus am lifogi yn aml. Roedd ei ymdrechion i atal y llifogydd yn ddigon i ddenu sylw Thomas Penson, Arolygydd Sir Drefaldwyn.

Aur du

Un o'r Cymry mwyaf rhyfeddol erioed.

Ivor Thomas

Gofynnwyd iddo ddod i helpu adeiladu seiliau, heol ac argae ar gyfer pont haearn newydd dros yr afon Hafren, Mae'r bont yn dal i sefyll hyd heddiw. Wrth i'w sgiliau fel peiriannydd ddatblygu, trodd David Davies ei sylw i fusnes mawr arall - adeiladu rheilffyrdd. Yn 1885 ceisiodd yn llwyddiannus am gytundeb i adeiladu y lein o Lanidloes i'r Drenewydd.

Dilynodd cytundebau eraill gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Clwyd, Rheilffordd Drenewydd a Machynlleth, Rheilffordd Canolbarth Cymru o Lanidloes i Aberhonddu a Rheilffyrdd Cambria. O fewn 15 mlynedd roedd yn gyfrifol am osod 144 milltir o drac.

Yn 1865, cymerodd ei gam mawr cyntaf i fyd gwleidyddiaeth wrth sefyll yn etholiadau seneddol fel cynrychiolydd y Rhyddfrydwyr yng Ngheredigion. Enillodd e ddim y gadair ond dychwelodd eto i'r hustyngau yn y dyfodol.

Tua'r adeg hyn cymerodd ddiddordeb mewn glo - yn arbennig y glo oedd yn gorwedd heb ei gyffwrdd yn ardaloedd uchaf Cwm Rhondda. Cymerodd ef a gr诺p o fuddsoddwyr eraill prydles ar darn o dir ger Treorci.

Am 15 mis chwiliodd ei weithwyr yn ofer am 'aur du'. Gan fod cyllid y prosiect yn mynd yn brin dywedodd Davies wrth ei ddynion i stopio eu gwaith, ond roedd rhain yn benderfynol, gan gynnig gweithio am wythnos yn ddi-d芒l. Mae'n beth da eu bod nhw wedi oherwydd daethant ar draws un o haenau glo gorau'r byd.

'Davies yr Ocean'

Cerflun David Davies
Cerflun David Davies

Felly cr毛wyd yr 'Ocean Coal Company' gyda'i nifer o weithwyr yn tyfu'n gyflym o cwpl o gannoedd i 5,000 o ddynion. Adnabuwyd David Davies fel 'Davies yr Ocean' a bu s么n amdano yn bell ac agos. Fe'i wahoddwyd i gynghori ar brosiectau mwyngloddio yn Rwsia, Sbaen, Brasil ac amryw wledydd eraill. Yn ogystal 芒 hyn fe'i wahoddwyd i agoriad Camlas Suez a bu'n teithio ym Mhalestina a'r Aifft.

Er iddo deithio llawer, roedd David Davies yn dal i fyw yn Llandinam gyda Margaret, y ferch briododd yn 1851, a'u mab Edward a anwyd yn 1852. Adeiladodd d欧 crand i'r teulu o'r enw Broneiron a symudon nhw yno yn 1864. Pan roedd Edward yn 21, talodd ei dad am barti mawreddog yno. Codwyd pabell anferth ac fe wahoddwyd ryw 6,000 o bobl i'r dathliadau - llawer ohonynt yn teithio i'r Canolbarth ar drenau arbennig o feysydd glo y Rhondda. Prynodd Plas Dinam i'w fab yn 1884.

Roedd Davies yn ddyn crefyddol iawn ac yn ddirwestwr. Rhoddai symiau mawr o arian i'r gymuned leol. Yn aelod o Fwrdd yr Ysgol, rhoddodd bron 芒 bod yr holl arian tuag at adeiladu adeilad ysgol a chapel newydd yn y pentref. Bob blwyddyn byddai'n cynnal parti i'r plant lleol yng ngerddi Broneiron ac hefyd yn talu am eu trip ysgol Sul blynyddol.

Dyn Dirwest

Yn 1774 ceisiodd eto i gael ei ethol yn AS Ceredigion a'r tro yma roedd yn llwyddiannus. Fe'i ail-etholwyd yn ddi-wrthwynebiad yn 1880 ac eto yn 1885. Yn ystod ei amser yn Nh欧'r Cyffredin, gwnaeth yn glir ei safbwynt ar yfed, gan bleidleisio yn erbyn agor tafarndai ar y Sul ac oriau agor, a phleidleisio o blaid codi trethi ar wirodydd a chwrw. Ond ei safbwynt ar Lywodraeth Cartref Gwyddelig a'i gafodd i mewn i drafferthion.

Gwrthryfelodd yn erbyn arweinydd y Rhyddfrydwyr, Gladstone, ond roedd ei wrthwynebiad i'r pwynt polisi pwysig yma yn ddigon iddo gael ei ddad-ethol. Penderfynodd sefyll yn annibynnol ond collodd wrth naw bleidlais.

Roedd cysylltiad agos iawn rhwng Davies a'r ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru Aberystwyth ac yn wir fe gytunodd i rhoi 拢20 iddynt am bob 拢100 oedd yn cael ei godi. Agorodd y coleg ei ddrysau yn 1872.

Dociau Gorau'r Byd

Dociau Barri
Dociau Barri yn y 19g (h)axis

Llwyddiant mawr arall iddo oedd adeiladu Dociau'r Barri - rhywbeth bu'n rhaid iddo wneud i sicrhau marchnad dramor sefydlog i'r glo 'r Rhondda. Ar y pryd roedd hwn ymysg dociau gorau'r byd. Costiodd y brosiect oddeutu 拢2m ac o'r herwydd tyfodd poblogaeth y Barri o llai na cant o bobl yn 1881 i bron 13,000 yn 1891.

Roedd David Davies yn 72 oed pan fu farw yn 1890, wedi cyfnod byr o salwch. Fe'i gladdwyd ym mynwent Llandinam. Mae cerflun ohono yn dal y cynllun ar gyfer Dociau'r Barri yn dal i sefyll yng nghanol y pentref - copi o un cr毛wyd i Ddocia'u Barri ei hun.

Mae cymynrodd y g诺r hwn yn parhau - nid yn unig trwy ei waith ei hun ond hefyd trwy yr hyn mae gweddill ei deulu wedi ei cyflawni. Roedd David, ei 诺yr, yn Aelod Seneddol Ceredigion ar rhan y Rhyddfrydwyr o 1906-1929 ac fe'i wnaethpwyd yn Farwn Davies o Llandinam yn 1932. Ymgyrchydd heddwch brwdfrydig, ei gyfraniadau ariannol caniataodd creu Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol cyntaf y byd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Etifeddiaeth y Chwiorydd Davies

Y Chwiorydd Davies
Y Chwiorydd Davies (h) Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Roedd ei gor-wyresau, y Chwiorydd Davies, Margaret a Gwendoline, yn adnabyddus iawn am eu gweithiau dyngarol. Hwy oedd pia adeilad ysblennydd Gregynog ger y Drenewydd ac yn gyfrifol am gasgliad celf mwya sylweddol Cymru. Mae'r casgliad hwn yn eiddo nawr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Heb gyfoeth eu hen dadcu a'u caredigrwydd hwythau byddai diwylliant y wlad hon yn llawer tlotach.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.