主播大秀

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac yr ydym yn dathlu ei fywyd ar Fawrth 1af - Dydd G诺yl Dewi - bob blwyddyn.

Er nad oes neb yn gwbl si诺r o flwyddyn geni Dewi Sant, bu'n byw yn y 6ed Ganrif, ac mae rhai pobl yn honni iddo fyw nes yn 100 oed. Mae ei ddyddiadau geni a marw yn amrywio rhwng tua 462 - 589 OC, ac mae'n gymharol ddiogel i feddwl fod unai y dyddiad geni yn hwyrach na hyn, neu'r dyddiad marw'n gynharach, gan ei fod yn annhebygol iddo fyw nes yn 127 oed!

Baner croes aur ar gefndir du
Baner Dewi Sant

Ganwyd Dewi, yn 么l y s么n, yn ne Ceredigion neu yng ngogledd Sir Benfro, ac yn wahanol i nawddseintiau eraill gwledydd Prydain - mae cryn dipyn o wybodaeth ar gael am ei fywyd, ac mae'n frodor o'r wlad y mae'n nawddsant arni.

Mae'n debyg i San Si么r (Saint George, nawddsant Lloegr) gael ei eni yn Cappadocia - sydd bellach yn rhan o ddwyrain Twrci; credir mai Cymro neu Albanwr oedd San Padrig (Saint Patrick, nawddsant Iwerddon); a ganed Sant Andrew (nawddsant yr Alban) yng Ngwlad yr Iorddonen.

Ei eni o dras frenhinol Roedd mam Dewi, Non, yn lleian ac yn ferch i bennaeth lleol a'i dad, yn 么l yr hanes, yn fab i Ceredig, tywysog Ceredigion. Mae un chwedl hefyd yn dweud fod Non yn nith i'r Brenin Arthur.

Mae llawer o'r hyn yr ydym yn ei wybod am Dewi yn dod o waith Rhigyfarch ap Sulien, awdur o'r 11eg ganrif a ysgrifenodd 'Buchedd Dewi'. Gan i waith Rhigyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw'r hanes.

Addysg, a chrefydd Mae'n debyg i Dewi gael ei addysg yn Llanilltud Fawr, ac yn 么l Rhigyfarch, adferodd Dewi olwg ei diwtor Sant Paulinus. Daeth yn ffigwr blaenllaw yn yr Eglwys Geltaidd, a sefydlodd fynachlog yn y porthladd Rhufeinig 'Menevia' yn Sir Benfro - yn ddiweddarach daeth y lle hwn yn ddinas gadeiriol wedi ei henwi ar 么l Dewi - Tyddewi.

Y bregeth ar y bryn Mae nifer o chwedlau yn ymwneud 芒 Dewi, ond efallai mai'r enwocaf yw'r bregeth yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Casglodd torf anferth i wrando ac roedd llawer yn cwyno nad oeddent yn gallu gweld na chlywed beth oedd yn digwydd.

Dywed y chwedl i Dewi osod hances ar y llawr cyn sefyll arni, ac yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi fel y gallai pawb ei weld. Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, yn arwydd gan Dduw o'i sancteiddrwydd.

"Gwnewch y pethau bychain..." Rhai o eiriau olaf Dewi cyn iddo farw oedd ei rai enwocaf. Cofnodwyd ei bregeth olaf yn Llyfr Ancr Llanddewibrefi o'r 14eg Ganrif: 'Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i'.

Darganfuwyd esgyrn dynol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1996, a honnwyd y gallai'r esgyrn fod yn rhai neb llai na Dewi Sant. Fodd bynnag, yn dilyn profion, cadarnhawyd mai olion canoloesol llawer diweddarach oedd wedi eu canfod.

Roedd Dewi yn ffigwr canolog yn natblygiad Cristnogaeth yng ngwledydd Prydain Baganaidd ac roedd ganddo gysylltiadau cryf ag Iwerddon.

Dydd G诺yl Dewi Dywed Rhigyfarch i Dewi fynd ar bererindod gyda dau o seintiau eraill Cymru, Teilo a Phadarn, i Jerwsalem lle cafodd y tri eu cysegru yn esgobion ac y cafodd Dewi ei urddo yn archesgob.

Daeth ei fynachlog yn ganolfan ysbrydol pwysig ac erbyn y 12fed Ganrif roedd Tyddewi yn ganolfan i esgobaeth oedd yn ymestyn dros hanner Cymru. Cafodd Dewi ei hun ei gydnabod yn arweinydd y Brythoniaid ac mae'r gerdd Armes Prydein o'r 10fed ganrif yn s么n am 'faner' Dewi fel baner y cynghreiriad yn erbyn y Saeson.

Mae'n debyg iddo ddod yn nawddsant i'r Cymry am fod cynifer o eglwysi hynafol Cymru wedi eu cysegru iddo a'i 糯yl Mabsant yn cael ei dathlu mewn mwy o eglwysi nag unrhyw un o'r seintiau eraill.

Mae rhai yn honni fod Mawrth 1af, dyddiad ei farwolaeth, wedi ei ychwanegu i galendr yr Eglwys pan ganoneiddwyd Dewi gan y Pab Callistus II yn 1120 ond mae'r dyddiad yn cael ei nodi fel Dydd G诺yl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o'r 9fed Ganrif hefyd.

Ewch ymlaen i ddarllen am ddathliadau Dydd G诺yl Dewi.


Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.