主播大秀

Elizabeth Jones

top
Poster o'r film 'Chicago Joe and the Showgirl'

Breuddwyd Elizabeth Jones, fel llawer o ferched ifanc eraill ar ddiwedd y pumdegau, oedd cael bod yn un o s锚r y sgr卯n fawr. Ni wireddwyd ei dymuniad ond fe saethwyd ffilm wedi ei seilio ar fywyd y ferch o dde Cymru. Yn anffodus, nid Elizabeth oedd y seren...

Un rhan o 'Bonnie and Clyde' Prydain

Elizabeth Jones
Elizabeth Jones

Yr agosaf y daeth hi i'r sgr卯n arian mewn gwirionedd oedd fel tywyswraig mewn sinema yn Llundain.

Ganwyd Elizabeth Marina Jones, neu Betty Jones, yng Nghastellnedd yn 1926. Pan oedd hi'n 13 mlwydd oed dihangodd o'i chartref.

Penderfynodd yr awdurdodau ei bod y tu hwnt i reolaeth ei rhieni ac felly fe'i danfonwyd i ysgol warchod, neu 'ysgol plant drwg'.

Dair blynedd yn ddiweddarach roedd hi'n briod 芒 chorporal yn y fyddin, g诺r creulon a oedd ddeng mlynedd yn h欧n na hi.

Uniad byrhoedlog iawn fu hwn. Trawodd y priodfab hi ar ddiwrnod y briodas, ac o fewn dyddiau gadawodd Betty ef.

Symudodd hi i Lundain lle newidiodd ei henw i Georgina Grayson, ac yno cafodd waith fel tywyswraig sinema ac fel dawnswraig egsotig - enw parchus ar ddawnswraig noeth a phutain - yng nghlybiau nos amheus y Panama a'r Blue Lagoon.

Cwrdd 芒'r dihiryn

Karl Gustav Hulton
Karl Gustav Hulton

Ar 3 Hydref 1944 cyfarfu Elizabeth, a hithau ond yn ddeunaw oed, 芒 dyn a fyddai'n newid ei bywyd yn llwyr, a hynny o fewn wythnos.

Ffoadur o fyddin yr Unol Daleithiau oedd Karl Gustav Hulton, a defnyddiai'r ffugenw Ricki Allen. Bu'n aelod o Gatrawd Parasiwt Gwflr Traed 501.

Yno yn Llundain, mewn caffi yn Queen Caroline Street, sylweddolodd y ddau o'r eiliadau cyntaf bod ffawd wedi eu denu ynghyd.

Ar eu noson gyntaf gyda'i gilydd defnyddiodd Hulton y cerbyd milwrol yr oedd wedi ei ddwyn, lori hanner tunnell gyda deg olwyn, i daro merch ifanc oddi ar ei beic a dwyn ei bag llaw.

Trannoeth, cafodd menyw yn cario dau fag trwm gludiant ganddynt. Roedd hi ar ei ffordd i orsaf Paddington. Cyn hir dywedodd Hulton wrthi fod yn rhaid iddo stopio am fod ganddo olwyn fflat.

Stopiodd Hulton y cerbyd a tharo'r fenyw 芒 bar haearn. Wrth i Jones ei dal yn llonydd aeth Hulton drwy ei phocedi. Yna cododd y ddau hi a thaflu ei chorff i'r afon. Pum swllt yn unig oedd yr elw o'r ymosodiad. Roedd sbri marwol Bonnie a Clyde gwledydd Prydain wedi cychwyn.

Ffantasi'r Mob

Merched clybiau nos Llundain
Merched clybiau nos Llundain

Cyfaddefodd Hulton ran helaeth o'r gwir amdano'i hun, sef iddo ddianc o'r fyddin a dwyn lori, ond aeth ymlaen i fyd ffantasi drwy honni iddo fod yn un o ddynion hur y Mob yn Chicago.

Tynnodd bistol o'i boced i brofi hynny. Roedd hyn wrth fodd Betty, a'i breuddwyd erbyn hyn oedd cael bod yn 'gangster's moll'.

Y diwrnod canlynol, penderfynodd y p芒r chwilio am dafarn fel targed er mwyn dwyn yr arian o'r til, ond yn hytrach na gwneud hynny llogodd y ddau dacsi yn Hammersmith Broadway.

Ar 么l cyrraedd man unig rhoesant orchymyn i'r gyrrwr stopio. Saethodd Hulton y gyrrwr, George Heath, yn ei ben a dwyn ei arian a'i gar. Cymerodd Hulton y llyw tra oedd Jones yn mynd trwy bocedi'r gyrrwr marw.

Taflwyd corff Heath i ffos ger Knowle Green, a'r diwrnod wedyn aeth y ddau i drac rasio milgwn White City i wario'r arian.

Y Got Ffwr

Llundain yn y Blitz
Llundain yn y Blitz

Yna aethant ati i werthu'r ychydig eiddo a gymerwyd oddi ar y gyrrwr druan, gan gynnwys pensil metel ac ysgrifbin.

Darganfuwyd llyfr siec a thrwydded yrru Heath ar ymyl ffordd y Great Western gan un o'r enw John Jones, prentis o drydanwr, a chyhoeddodd yr heddlu eu bod yn awyddus i ddod o hyd i Heath a'i gar. Daeth yr achos yn enwog trwy Brydain. Cafodd y llofruddiaeth yr enw 'The cleft chin murder' yn y wasg gan fod yr heddlu wedi crybwyll y nodedd hwn ym mhryd a gwedd Heath cyn rhyddhau ei enw i'r cyhoedd.

Ar nos Sul 8 Hydref aeth y ddau gariad i'r sinema i weld y ffilm Christmas Holiday gyda Deanna Durbin yn seren ynddi. Roeddynt yn dal i yrru o gwmpas yn gwbl agored yn y tacsi Ford V8.

Penderfynodd Elizabeth yr hoffai gael c么t ffwr. Gadawsant y car y tu allan i westy'r Barkley a disgwyl am fenyw - unrhyw fenyw - a wisgai g么t o'r fath. Penderfynodd y ddau ar g么t wen o groen carlwm a wisgid gan fenyw a oedd ar ei ffordd allan o'r gwesty. Ymosododd Hulton arni ond cyrhaeddodd yr heddlu cyn iddo lwyddo i ddwyn y g么t. Llwyddodd Hulton i ddianc yn y car.

Cyfiawnder - a'r crocbren

Yr Old Bailey
Yr Old Bailey

Daeth y diwedd y bore canlynol wrth i blismon, PC William Walters, sylweddoli arwyddoc芒d y car Ford rhif RD 8955 a welodd wedi'i barcio yn Lurgan Avenue. Galwodd am ragor o blismyn, ac am naw o'r gloch y bore aeth Hulton i mewn i'r car. Fe'i arestiwyd cyn iddo yrru i ffwrdd.

Esboniad Hulton oedd iddo ddod o hyd i'r car wedi ei adael ar ochr y ffordd yn Newbury. Arestiwyd Betty Jones hefyd a chyfaddefodd hi'r cyfan. Mynnai iddi weithredu yn sgil ei hofn o Hulton. Arestiwyd Hulton yn ogystal gan swyddogion Byddin yr Unol Daleithiau.

Hwy oedd 芒'r flaenoriaeth arno mewn gwirionedd, ond golchodd yr Americanwyr eu dwylo ohono a'i ddychwelyd i ofal a deddfwriaeth cyfraith Prydain. Daeth enwogrwydd, o ryw fath, i fywyd Elizabeth Jones wrth i'r wasg wneud m么r a mynydd o'r milwr Americanaidd a'r ddawnswraig egsotig.

Cychwynnodd yr achos chwe mis cyn Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, a chafwyd y ddau yn euog o lofruddiaeth. Crogwyd Hulton yng Ngharchar Pentonville ar 8 Mawrth 1945, wythnos ar 么l ei benblwydd yn 23 oed. Roedd trigolion Castell Nedd yn ynfyd am ran Elizabeth yn y sgandal a chafwyd graffiti yn yr ardal yn mynnu ei dienyddiad hithau hefyd.

Ddau ddiwrnod yn unig cyn dyddiad ei dienyddiad, diddymwyd y gosb eithaf yn achos Elizabeth Marina Jones. Fe'i rhyddhawyd o'r carchar ar drwydded ym mis Mai 1954 ac mae ei hanes yn anhysbys wedi hynny. Ond nid dyna ddiwedd yr hanes.

Ysbrydoli Ffilm

Yn wir, mae'r holl stori ddi-ystyr gyda'i awyrgylch o neuaddau-dawns, persawr rhad, enwau ffug a cheir wedi'u dwyn, yn perthyn yn ei hanfod i amser rhyfel.

George Orwell

Mewn traethawd ar y dirywiad mewn llofruddiaethau Seisnig, edrychodd George Orwell yn 么l ar lofruddiaethau clasurol Lloegr. Sbardunwyd y traethawd gan hanes Hulton a Jones. Y ddau hyn, yn 么l Orwell, oedd y ddau gyntaf i ladd er mwyn y diawlineb o ladd.

Yna, yn 1990, daeth breuddwyd Betty Jones yn rhannol wir. Ffilmiwyd ei stori hi a Hulton o dan y teitl Chicago Joe and the Showgirl. Roedd Kiefer Sutherland yn chwarae rhan Hulton ac Emily Lloyd yn chwarae rhan Elizabeth Jones.

Do, fe gafodd y ferch o Gastell-nedd ei phortreadu mewn ffilm, ond nid hi oedd y seren. A dyna oedd swm a sylwedd ei bywyd trist.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.