主播大秀

Arwres Abergwaun

top
Jemima Nicholas

Dywed y llyfrau hanes mai Hastings yw safle'r goresgyniad olaf o unrhyw ran o wledydd Prydain gan filwyr tramor - yn 1066 - ond nid yw hynny'n gwbl wir...

Jemima Nicholas

Bedd Jemima Nicholas
Bedd Jemima Nicholas

Hwyrach mai Brwydr Hastings oedd goresgyniad olaf y Normaniaid, a hwyrach mai yno y gwelwyd y goresgyniad llwyddiannus olaf, ond yr ymgais olaf i oresgyn unrhyw ran o dir mawr Prydain oedd glaniad y Ffrancwyr ger Abergwaun ym mis Chwefror 1797.

Er i'r digwyddiad gael ei ddisgrifio fel Brwydr Abergwaun, mae'n nodedig mai dim ond tri a gollodd eu bywydau, a hynny'n ddamweiniol mae'n debyg.

Creodd y glaniad hwnnw arwres o fri, Jemima Nicholas, un a lwyddodd yn 么l yr hanes, heb unrhyw arf ond fforch wair, i ddal dwsin o filwyr Ffrengig a'u rhoi dan glo.

Bygythiad Ffrainc

Napoleon Bonaparte
Napoleon Bonaparte

Yn 1797 roedd Napoleon Bonaparte yn prysur goncro canol Ewrop.

Wedi iddo fethu 芒 sicrhau rheolaeth o'r m么r, trodd Napoleon at gynllwyn a olygai greu embaras i Brydain trwy oresgyn Iwerddon a glanio ym Mae Bantry ac yn Newcastle.

Y bwriad oedd llosgi'r dociau ac yna droi i ymosod ar Fryste a brwydro'u ffordd i fyny.

Tarfwyd ar y cynllwyn gan dywydd anffafriol, ac ar 22 Chwefror methai trigolion ardal Abergwaun 芒 chredu'r hyn a welent - tair ffrigad Ffrengig, y R茅sistance, y Constance a'r Vengeance - yng nghwmni'r llusglong Vautour yn eu hwynebu ar draws y bae.

Aeth y si ar led drwy'r de-orllewin fod y Ffrancwyr yn bwriadu goresgyn y wlad a'u bod wedi sicrhau cefnogaeth Anghydffurfwyr lleol.

Dyn gyda dyled i'w thalu

Tafarn y Royal Oak lle ildiodd y Ffrancod
Tafarn y Royal Oak lle ildiodd y Ffrancod

Roedd rhai ym Mhrydain o hyd yn edmygu'r hyn a ddigwyddodd adeg y Chwyldro Ffrengig, er bod y creulondeb a'i dilynodd wedi peri i'r brwdfrydedd bylu ymhlith llawer a fu'n gefnogol.

Ar fyrddau'r llongau a oedd wedi hwylio o Camaret roedd 1,400 o filwyr, gan gynnwys 800 o garcharorion a ryddhawyd yn arbennig ar gyfer y fenter.

Yn gofalu amdanynt roedd y Cyrnol William Tate, hanner Gwyddel a chyn-swyddog magnelau yn Rhyfel Annibyniaeth America.

Roedd ganddo hen ddyled i'w thalu'n 么l gan iddo gael ei garcharu gan Brydain ar un adeg.

Criw digon brith oedd y milwyr o dan ei ofal, rhai ohonynt yn dal mewn cyffion o'u cyfnod mewn carchar.

Caent eu hadnabod fel y Lleng Ddu. Dywedir i'r milwyr wisgo lifrai Prydeinig er mwyn twyllo'r trigolion eu bod am uno'r werin a'u harwain mewn ymgyrch yn erbyn y tirfeddianwyr cyfoethog.

Er bod y llongau'n arddangos baner Lloegr, sylweddolodd trigolion yr ardal ar unwaith mai Ffrancwyr oedd ar eu byrddau a thaniwyd magnelau atynt.

Llwyddodd Tate i hwylio tuag at drwyn Carreg-wastad lle bwriwyd angor.

Y glaniad

Yna, yng ngolau'r lloer, glaniodd y milwyr mewn cychod bach. Llwyddodd y criw, gyda dwy fenyw yn eu plith, i ddringo'r clogwyn.

Gyda'u mysgedau hir a modern, gwaith hawdd fu cipio fferm Trehowel gerllaw a'i throi'n bencadlys i Tate.

Erbyn dau o'r gloch y bore roedd y dynion, arfau a phowdwr du wedi eu gosod ar greigiau Caerwnda.

Gadawodd y llongau gyda'u morwyr yn credu bod buddugoliaeth yn anochel, ond daeth y milwyr o hyd i st么r o win o Bortiwgal a oedd wedi ei achub o long a aethai ar y creigiau, ac ar 么l dwyn bwyd a lladd creaduriaid fferm aethant ati i loddesta.

Yn y cyfamser galwyd ar tua 400 o w欧r Meirch yr Iwmyn o Gastellmartin o dan ofal Arglwydd Cawdor a'r Cyrnol Milford, ynghyd ag aelodau o Filisia Aberteifi, Gwirfoddolwyr Penfro, morwyr a swyddogion y tollau oedd ar long a oedd wedi ei hangori yn Hwlffordd.

Carient arfau yn cynnwys wyth o ynnau bychan mewn wagen. Lefftenant Knox oedd yng ngofal y gaer yn Abergwaun, enw da i un yng ngofal caer.

Wrth i Knox a'i filwyr benderfynu gadael y gaer, daethant wyneb yn wyneb 芒 milwyr Cawdor a Milford a bu'n ddadl frwd i benderfynu pwy ddylai gael blaenoriaeth.

Y gwin yn elyn

Yn y cyfamser crwydrai'r Ffrancod y fro ar ddisberod, llawer ohonynt erbyn hyn yn feddw ar win Portiwgeaidd.

Yn wir, yr unig un sobr yn eu plith oedd y Cyrnol Tate. Roedd y dynion mor feddw fel i un ohonynt, ar fferm Brestgarn, frolio iddo saethu'n farw un o filwyr Cawdor.

Mewn gwirionedd roedd wedi saethu cloc tad-cu'r ffermwr yn y gegin! Petai'r Ffrancod yn ddigon sobr ac yn fwy awyddus i ymladd, byddent wedi cael buddugoliaeth hawdd yn erbyn byddin nad oedd ond hanner eu rhifedi.

Ond, wrth i Cawdor a'i ddynion gyrraedd traeth Wdig, ymgasglodd criw o fenywod lleol yn gwisgo clogynnau coch a hetiau uchel i gefnogi'r amddiffynwyr.

Galwodd Cawdor arnynt i gerdded yn gylch o gwmpas craig ar y traeth er mwyn rhoi'r argraff nid yn unig mai milwyr oedden nhw ond hefyd fod yna lawer ohonynt.

Ildiodd y Ffrancwyr yn nhafarn y Royal Oak yn Abergwaun ac yna ymddangosodd arwres annisgwyl.

Roedd Jemima Nicholas yn 47 oed ac yn Amasonaidd ei maint. Yn dal a chadarn ei chorff, cai ei hadnabod gan y trigolion lleol fel 'Jemima Fawr'. Roedd hi'n byw yn y Stryd Fawr lle'r oedd yn gweithio fel crydd.

Roedd hi ymhlith y criw o fenywod a ymgasglodd ar draeth Wdig. Deallwyd wedyn i hon, heb arf ar wah芒n i fforch wair, lwyddo i ddal deuddeg milwr Ffrengig mewn cae ger Llanwnda a'u hebrwng i Abergwaun at y milisia.

Jemima a'i fforch wair

Er cof am Jemima Nicholas o'r dref hon, yr Arwres Gymreig, a orymdeithiodd yn ddewr i gyfarfod 芒'r goresgynwyr Ffrengig, a laniodd ar y traethau hyn yn Chwefror 1797.

Beddargraff Jemima Nicholas

Yna aeth allan a dal dau arall. Dywedir i Jemima a'i chyd-fenywod gynnig crogi pob copa walltog o'r Lleng Ddu ac i filwyr Cawdor orfod eu hatal yn gorfforol rhag gwneud hynny.

Aethpwyd 芒'r carcharorion Ffrengig i Hwlffordd, wedi eu llwyr orchfygu gan win Portiwgeaidd a Jemima Fawr a'i fforch wair.

Daeth Jemima Fawr yn chwedl, nid yn unig yn ei hardal ei hun ond ledled Cymru. Caiff drama fawr Jemima ei hailberfformio hyd heddiw yn Abergwaun a cheir tapestri godiog yn y dref a greuwyd i goffau dau gan mlwyddiant y digwyddiad.

Bu farw Jemima yn 82 mlwydd oed. Ar lechen y tu allan i Eglwys y Santes Fair yn Abergwaun ceir coff芒d i Jemima.

Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.