主播大秀

Joseph Jenkins, y Crwydryn Lleddf

top
Dyddiadur Joseph Jenkins

Disgrifiwyd Joseph Jenkins gan yr Athro Hywel Teifi Edwards fel yr alltud rhyfeddaf y gwyddai amdano. Ni allai'r un dramodydd, fel y dywedodd ei gofiannydd, Bethan Phillips, fod wedi mentro creu cymeriad tebyg i Joseph Jenkins...

Piler cymdeithas Ceredigion

Lluniau o Joseph Jenkins
Lluniau o Joseph Jenkins

Esgyrn sychion ei hanes yw iddo deithio'r holl ffordd o Dregaron i Awstralia a chrwydro fel swagman yn y wlad anferth honno. Yna, wedi dros chwarter canrif yn alltud, teithiodd yn ei 么l i Dregaron unwaith eto.

Am ugain mlynedd bu'n ffermio Trecefel ger Tregaron, ond daeth problemau personol i'w ran a phenderfynodd ei ddadwreiddio'i hun. Felly, ym mis Rhagfyr 1868, ac yntau'n hanner can mlwydd oed, cododd ei bac ac anelu am stesion Tregaron.

Pen y daith yn gyntaf oedd Aberystwyth, lle prynodd docyn tr锚n arall am Lerpwl, ac oddi yno bwriadai hwylio am Awstralia.

Brodor o Ddyffryn Aeron oedd Joseph Jenkins. Ganwyd ef yn ffermdy Blaenplwyf yn un o dri ar ddeg o blant. Daeth brawd iddo, John, yn enwog fel bardd, gan fabwysiadu'r enw barddol Cerngoch. Yn wir, roedd Joseph ei hun yn fardd hefyd, yn un ymhlith nythaid o feirdd yn Nyffryn Aeron.

Mabwysiadodd yr enw barddol Amnon II, ond cymwynas fawr Joseph 芒'i genedl oedd iddo gadw dyddiadur hynod o fanwl ar hyd y blynyddoedd. Dengys ei nodiadau dyddiadurol iddo fwynhau'r ddiod gadarn, a bu hynny'n broblem iddo drwy ei oes.

Colli mab

Plas Nanteos
Plas Nanteos

Dechreuodd garu ag Elizabeth Evans, merch fferm Tynant, a phriodwyd hwy ar 31 Gorffennaf 1846. Ymhen ychydig flynyddoedd, ymfudodd dau o'i frodyr gan ymsefydlu yn Wisconsin. Tybed a fu hynny'n symbyliad i Joseph adael yn ddiweddarach ar daith lawer pellach?

Yn y lle cyntaf, bodlonodd Joseph a'i wraig a'i blentyn newydd-anedig ar fynd cyn belled 芒 Thregaron yn unig, i ffermio Trecefel. Hwy oedd yr unig deulu Undodaidd yn y cylch, ond yna fe drodd Joseph i fod yn eglwyswr selog.

Fe'i gwnaed hefyd yn Gwnstabl Plwyf, a dechreuodd droi mewn cylchoedd pwysig gan ei daflu ei hun i wleidyddiaeth leol. Daeth yn ffrindiau 芒 theulu Powell Nanteos, teulu Vaughan y Trawscoed a David Davies Llandinam. Dros y blynyddoedd ychwanegwyd pum plentyn arall at y teulu - mab arall a phedair merch. Bu farw'r mab hynaf, Jenkin, yn 17 mlwydd oed.

O ddrwg i waeth

Fe'm melltithwyd...hyd yn oed yng nghroth fy mam; wedi fy ngeni dan seren anffodus.

Joseph Jenkins

Ar 么l degawd llwyddiannus o ffermio, dechreuodd ffawd Joseph Jenkins droi. Dechreuodd ei ffortiwn edwino, aeth i ddyled ac aeth hefyd i yfed yn drymach.

Roedd pethau mor ddrwg nes i Elizabeth benderfynu mynd adref i fyw at ei theulu a phenderfynodd Joseph adael am y wlad bell gan deimlo fod pawb a phopeth yn ei erbyn.

Gadawodd Lerpwl ar yr SS Eurynome fel teithiwr ail ddosbarth. Wedi tri mis o fordaith stormus, glaniodd y llong yn Port Phillip ac aeth Joseph yn ei flaen am Melbourne. Cariai ei holl eiddo ar ei gefn, gan gynnwys ei Feibl Cymraeg, llyfrau barddoniaeth a'i ddyddiaduron.

Ond fel y mab afradlon gynt, roedd Joseph wedi cyrraedd gwlad oedd yn waeth o lawer na'r un a adawsai. Doedd fawr ddim gwaith ar ei gyfer ar y tir, a'r unig ateb oedd mynd yn swagman. Aeth ei deithiau ag ef trwy ddiffeithwch a thrwy'r gwyllt.

Cyrhaeddodd y tiroedd cloddio aur yn Victoria, ond buan y sylweddolodd fod mwy o arian i'w gael o drin y tir yn Nhrecefel nag oedd o aur o dan y tir yn Awstralia. Yn Ballarat bu'n cystadlu yn yr eisteddfod; yn wir, bu'n fuddugol ar yr englyn yno am dair blynedd ar ddeg yn olynol.

Dechrau crwydro

Mae fy nyddiadur yn arbed fy meddwl ond barddoniaeth yn bwydo fy enaid...

Joseph Jenkins

Cododd ei bac gan deithio tua Castlemaine, Taradale a Maldon. Crwydrodd o fferm ddefaid i fferm ddefaid. C芒i waith achlysurol yn trin y tir, yn torri coed ac yn cneifio.

Aeth teithiau Joseph Jenkins ag ef ar grwydr o Melbourne a Geelong yn ne Victoria ac ar draws o Skipton i Castlemaine. Derbyniai ambell lythyr o'i gartref ac un dydd, er mawr sioc a galar iddo, darllenodd i'w fab, Lewis, farw yn ugain oed.

Er gwaetha'r hiraeth, arhosodd yn y wlad bell gan ddechrau ymh茅l 芒 gwleidyddiaeth. Tystia ei ddyddiaduron i hynt a helynt ei fywyd dros y blynyddoedd. Aeth yn 么l i Ballarat, ac ar ddydd Nadolig 1869 gwnaeth araith ar ffurf 22 o benillion o lwyfan yr eisteddfod yno.

Clywodd am farwolaeth ei fam. Ar ddiwedd 1873 ymunodd 芒 mudiad dirwestol. Y flwyddyn ddilynol, dioddefodd o salwch drwg a chafodd ei frathu, nid am y tro cyntaf, gan sarff wenwynig. Fis Mehefin 1876 clywodd am farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith. Ym mis Chwefror 1877 mae'n adrodd iddo aredig un erw ar ddeg o dir mewn wyth diwrnod.

Ar ddydd G诺yl Ddewi 1878 enillodd y wobr gyntaf, fel arfer, ar yr englyn yn Ballarat. Erbyn 1879 ymddengys fod ei iechyd gryn dipyn yn well. Yn 1880 ymddiddorai Joseph yn helynt yr herwr Ned Kelly, gan ddanfon hanesion am Kelly a'i gang i'w deulu adref.

Yn 1882 cododd gaban iddo'i hun yn North Walmer, a hwn oedd ei gartref sefydlog cyntaf ers iddo gyrraedd Awstralia. Yna clywodd am farwolaeth un arall o'i blant, Margaret, yn 32 mlwydd oed.

Treuliodd hanner 1883 yn ddi-waith cyn cael gwaith parhaol gyda'r Cyngor yn Maldon yn glanhau ffyrdd am bunt yr wythnos. Yn ystod haf 1887 cawn ei hanes yn cymryd Aborigini i mewn i'w gaban am fwyd a llety.

Dychwelyd adref

Plac i gofio Joseph yn Maldon, Awstralia
Plac i gofio Joseph yn Maldon, Awstralia

Ac yntau bellach yn 72, teimlai'n rhy hen a llesg i weithio. Clywodd wedyn am farwolaeth ei fab, Ieuan, o'r dwymyn goch ac yna, ym mis Mai 1894, am farwolaeth ei frawd, Cerngoch.

Y colledion hyn a wnaeth iddo benderfynu mynd adref o'r diwedd - cyn y byddai pob un o'i gyfoedion a'i deulu wedi mynd o'i flaen. Llwyddodd i grafu digon o arian ynghyd i adael Awstralia ar yr SS Ophir. Cyrhaeddodd i Lundain ddechrau mis Ionawr 1895, ac yno'n disgwyl amdano ar y cei roedd pum perthynas iddo. Ni wnaeth yr un ohonynt ei adnabod gan fod Joseph, erbyn hyn, yn hen 诺r, yn grwm ac yn fusgrell.

Ddeuddydd yn ddiweddarach roedd Joseph yn ei 么l yn Nhrecefel, ond teimlai fel estron yn ei wlad ei hun. Bu farw ar 26 Medi 1898 ac fe'i claddwyd ym mynwent Capel y Groes, Llanwnnen. Bellach, ym mhen draw'r byd ym Maldon ceir ffynnon goffa i'r swagman o Dregaron.

Dyddiaduron Oes

Mae'r dyddiaduron cynnar yn cyflwyno darlun digyfaddawd o galedi a dioddefaint.

Bethan Phillips

Mae ei ddyddiaduron ar restr ddarllen holl ysgolion uwchradd Victoria ac mae pobl yn heidio i ddilyn y Swagman's Tour. Mae'r rhaglen wedi ei seilio ar ddyfyniadau helaeth o ddyddiaduron Joseph sy'n llawn barddoniaeth wreiddiol Gymraeg a Saesneg.

Bellach mae'r dyddiaduron yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn y State Library of Victoria ym Melbourne. Fe fu Joseph Jenkins yn Awstralia am 26 mlynedd ac yno mae'r casgliad argraffiedig o'i waith yn cael ei gydnabod fel clasur llenyddol. Yr eironi yw fod Joseph Jenkins yn cael ei werthfawrogi'n fwy yn Awstralia bell nag y mae yma yng Nghymru.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.