主播大秀

Llywelyn ap Gruffydd

Llywelyn ap Gruffydd - Ein Llyw Olaf

11 Hydref 2010

Llywelyn ap Gruffydd oedd 诺yr Llywelyn Fawr drwy ei fab anghyfreithlon Gruffydd. Yr olaf o linach tywysogion Gwynedd i geisio uno Cymru, caiff ei alw'n Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Cafodd ei eni tua 1223 a bu farw ar 11 Rhagfyr 1282.

Roedd mab ac etifedd cyfreithlon Llywelyn Fawr wedi marw heb blant ac felly daeth grym Gwynedd maes o law i ddwylo plant ei fab arall, Gruffydd.

Doedd Harri III, brenin Lloegr, ddim yn fodlon i wyrion Llywelyn Fawr fwynhau yr un grym dros rannau helaeth o'r genedl ag oedd gan eu taid ac fe geisiodd gyfyngu eu hawdurdod a'u gwneud yn arglwyddi cyffredin o fewn teyrnas Lloegr.

Ond roedd gan yr ail o bedwar mab Gruffydd, Llywelyn, syniadau eraill. Erbyn 1256, roedd wedi disodli ei frodyr a rhoi cychwyn ar ymgyrchoedd tebyg i rai ei daid.

Enillodd gefnogaeth arglwyddi Powys Fadog, cipiodd Bowys Wenwynwyn, a sicrhaodd bod awdurdod yn Neheubarth yn nwylo arweinwyr oedd yn deyrngar iddo.

Ac yntau'n arglwydd Pura Wallia - y rhan o Gymru oedd yn dal i fod dan rym y tywysogion cynhenid - mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru. Ond er mwyn rhoi sylwedd llawn i'r teitl, roedd rhaid iddo ennill dylanwad yn y Mers hefyd.

Yn 1263, arweiniodd ei luoedd i ganol y Mers a chafodd groeso gan Gymry Brycheiniog, y Fenni a Blaenau Morgannwg.

Bu Gwrthryfel y Barwniaid yn Lloegr yn gymorth iddo. Arweinydd y gwrthryfel oedd Simon de Montfort, a ffurfiodd gynghrair 芒 Llywelyn yn 1264. Yn ddiweddarach, roedd Llywelyn i briodi ei ferch Eleanor de Montford.

Cytundeb Trefaldwyn

Dair blynedd yn ddiweddarach yn 1267, drwy Gytundeb Trefaldwyn, cydnabuwyd Llywelyn yn Dywysog Cymru gan Harri III. Yn y cytundeb hwnnw, bu'n rhaid i Harri dderbyn telerau a chydnabod tywysogaeth Llywelyn a'i deitl fel Tywysog Cymru.

Rhwng 1267- 77 roedd Llywelyn yn ben ar dros dri chwarter arwynebedd Cymru; roedd ganddo efallai 200,000 o ddeiliaid a'r holl elfennau angenrheidiol ar gyfer datblygu gwladwriaeth.

Yn 么l yr hanesydd John Davies: "Amser oedd yr angen pennaf er mwyn gwneud y Dywysogaeth yn ffaith wleidyddol ddiymwad; dyna'n union beth na chaniatawyd iddi."

Roedd sawl gwendid pwysig yng Nghytundeb Trefaldwyn yn enwedig y ffaith fod rhaid i Lywelyn godi trethi uchel ar ei ddeiliaid er mwyn talu 25,000 marc i'r brenin (拢16,666) gan greu anniddigrwydd mawr ymysg ei bobl.

Yn ogystal, nid oedd pawb yn deyrngar iddo o fewn y Pura Wallia gan gynnwys ei frawd uchelgeisiol Dafydd a thywysogion Cymreig anfodlon ac arglwyddi gwrthwynebus eraill.

Bu Dafydd yn cynllwynio i ladd Llywelyn gyda'i fab, Owain, a Gruffydd ap Gwenwynwyn ym Mhowys Wenwynwyn a phan fethodd y cynllwyn, cafodd loches gan y brenin newydd, Edward I.

Yn 1276 cyhoeddodd Edward fod Llywelyn yn rebel ar 么l iddo wrthod talu gwrogaeth iddo. Roedd y brenin wedi cipio Elaenor de Montford, darpar wraig Llywelyn, ac erbyn 1277 roedd lluoedd y Brenin yng Ngwynedd. Roedd Eleanor, drwy ei mam, yn gyfneither i Edward (yn nith i Harri III a wyres i'r brenin John, sef tad Siwan, gwraig gyfreithlon Llywelyn Fawr, taid Llywelyn ap Gruffydd). Roedd hi hefyd yn nith i Frenin Ffrainc a'r Ymerawdwr Rhufeinig.

Bu'n rhaid i Lywelyn ildio a sefydlwyd Cytundeb Aberconwy oedd yn cyfyngu awdurdod Llywelyn i Wynedd Is-Conwy, er y c芒i barhau i alw ei hun yn Dywysog Cymru. Cafodd Dafydd gyfran o Wynedd Is-Conwy. Rhyddhwyd Eleanor wedi Cytundeb Aberconwy a phriodwyd y ddau. Mynnodd y brenin, a oedd eisoes 芒 chestyll yn Aberteifi, Caerfyrddin a Threfaldwyn, godi cestyll newydd yn Aberystwyth, Ruallt, Rhuddlan a'r Fflint.

Uchelgais yn parhau

Ond doedd uchelgais Llywelyn ddim eto wedi darfod. Roedd gan Lywelyn ei gadarnle yn Eryri ac yng ngweddill Cymru yr oedd cryn deyrngarwch iddo.

Yn y pum mlynedd wedi Cytundeb Aberconwy, ceisiodd Llywelyn atgyfnerthu'r hyn oedd yn weddill o'i Dywysogaeth. Roedd erbyn hyn yn fodlon talu gwrogaeth i'r brenin a thalu'r arian roedd wedi ei addo o dan Gytundeb Trefaldwyn.

Mae'n ymddangos bod pethau'n gymodlon rhyngddo a'r Brenin Edward erbyn hyn, ac roedd yn bresennol yng nghadeirlan Caerwrangon yn 1278 adeg priodas Llywelyn ac Eleanor de Montfort.

Ond roedd tyndra yn cynyddu mewn rhannau o Gymru wrth i rai o drigolion Gwynedd oedd yn ddeiliaid i Frenin Lloegr gwyno am ormes y swyddogion brenhinol. Yn y Deheubarth, roedd y m芒n reolwyr yn gorfod plygu i drefn weinyddol y frenhiniaeth yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi a chododd chwerwedd pan benderfynwyd materion Cymreig o bwys yn unol 芒 chyfraith Lloegr yn hytrach na chyfraith Cymru.

Gwrthryfel olaf

Yn annisgwyl, Dafydd, brawd annheyrngar Llywelyn sbardunodd y gwrthryfel olaf: ar Sul y Blodau 1282, ymosododd ar Gastell Penarl芒g, gan ddechrau'r gwrthryfel a ledodd drwy Gymru.

Oedodd Llywelyn cyn ymuno 芒'r gwrthryfel. Ond, wedi i Eleanor farw ar enedigaeth eu hunig blentyn, Gwenllian - ymunodd 芒'i frawd ym mis Mehefin 1282.

Yn eironig, y gwrthryfel a gychwynwyd gan Dafydd hefyd a arweiniodd at dranc ei linach brenhinol ef a'i frawd Llywelyn.

Aeth y brwydro ymlaen, gydag Edward yn benderfynol o ennill buddugoliaeth lwyr, ar gost enfawr iddo o ran ymdrech ac arian.

Rhan o farwnad Llywelyn

Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chwi'r gwir yn ymweiriaw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwylaw'r awyr?
Poni welwch chwi'r syr wedi'r syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw.
Och hyd atat ti, Dduw, na ddaw - m么r dros dir!
Pa beth y'n gedir i ohiriaw?

Gruffydd ab yr Ynad Goch, 1282

    Tua diwedd 1282, penderfynodd Llywelyn geisio cefnogaeth gw欧r y canolbarth gan arwain byddin yno. Ond, ar 11 Rhagfyr 1282, lladdwyd Llywelyn mewn sgarmes yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-Muallt gan w欧r y brenin, er na wyddent ar y pryd pwy roeddent wedi ei ladd.

    Anfonwyd pen Llywelyn yn anrheg i'r Brenin yn Llundain ac fe'i cludwyd drwy strydoedd y ddinas i'w arddangos cyn ei adael i bydru ar bostyn haearn ger T诺r Llundain.

    Credir i'w gorff gael ei gladdu yn Abaty Cwm Hir ger Rhaeadr.

    Mabwysiadodd Dafydd y teitl Tywysog Cymru a chario ymlaen i ymladd ond cafodd ei gipio wrth droed Cadair Idris ar 25 Ebrill 1283, ei arteithio a'i ddienyddio yn Amwythig.

    Cafodd Gwenllian, unig ferch Llywelyn ac Eleanor, ei chipio gan y brenin ac, er mwyn sicrhau diwedd llinach Llywelyn, ei hanfon i leiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln. Bu farw yno yn 54 mlwydd oed.

    Erbyn 1283, roedd pob rhan o Gymru oedd dan lywodraeth frodorol Gymreig bellach yn atebol i Frenin Lloegr a rhannwyd trwch Pura Wallia yn chwe sir - M么n, Caernarfon, Meirionnydd, Ceredigion, Caerfyrddin a'r Fflint.

    Mae'r cestyll godidog a gododd Edward yng Nghaernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares yn dyst i'w benderfyniad i chwalu'r drefn wleidyddol gynhenid Gymreig, ac unrhyw ymwybyddiaeth ohoni - a pha mor anodd roedd y dasg honno. Mae'r cestyll hyn ymysg yr enghreifftiau gorau o gestyll amddiffynnol a godwyd yn unman yn Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg.

    Yn 1284, cyhoeddodd Edward Statud Rhuddlan oedd yn datgan fod Cymru dan reolaeth Lloegr. Roedd mab Edward wedi ei eni yng Nghastell Caernarfon yn 1283, ac yn 1301 cafodd ei arwisgo yn Dywysog Cymru yn y castell. Arferiad sydd wedi para hyd heddiw.


    Bywyd

    John Charles

    Pobl

    A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

    Cestyll

    Castell Dolbadarn

    Oriel Cestyll

    Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.