主播大秀

Llyfrau gleision

Yr iaith ac addysg - 19eg ganrif

29 Awst 2008

Mewn adroddiad seneddol enwog yn 1847 ar addysg yng Nghymru cafodd yr iaith Gymraeg, a moesau'r Cymry, eu cystwyo.

Roedd plant yn cael eu hannog i beidio 芒 siarad Cymraeg yn yr ysgolion gan ddefnyddio dulliau megis y Welsh Not.

Roedd canol y 19eg ganrif yn gyfnod cythryblus yn hanes Cymru. Gwelwyd gwrthryfel a therfysg ar draws y wlad. Gofynnwyd cwestiynau yn y San Steffan yngl欧n 芒 thuedd y Cymry i dorri'r gyfraith. Yn 么l rhai, un rheswm posib oedd yr iaith Gymraeg. Yn dilyn araith yn 1846 gan Gymro, William Williams, aelod seneddol Coventry, comisiynwyd adroddiad seneddol ar le'r Gymraeg yn y system addysg.

Dyma'r adroddiad gafodd yr enw Brad y Llyfrau Gleision maes o law - glas am mai dyna liw cloriau'r adroddiad, a brad o hen chwedl Arthuraidd am y Sacsoniaid yn ymosod ar Brydain. Cododd storm pan gyhoeddwyd yr adroddiad yn 1847 yn enwedig yr adrannau hynny lle'r oedd y comisiynwyr wedi mynd tu hwnt i'r hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud, sef edrych ar gyflwr addysg, a gwneud sylwadau am foesau'r Cymry.

Fel y gellid disgwyl mae'r adroddiad yn dweud mai digon s芒l oedd y ddarpariaeth addysgol yng Nghymru. Yn 么l y comisiynwyr roedd y Gymraeg yn anfantais a Saesneg oedd yr ateb i wella cyflwr moesol a materol y bobl. Mewn ymateb i hynny cwestiynwyd 芒i tri bargyfreithiwr, uniaith Anglicanaidd o Loegr, oedd y bobl gymwys i ymchwilio i unrhyw fater yng Nghymru ar y pryd, yn enwedig yr iaith Gymraeg.

Dyma gyfnod y symbol o orthrwm diwylliannol Seisnig, yr atgas Welsh Not, oedd yn ffordd o orfodi plant y Cymry i siarad Saesneg yn yr ysgol. Fe fyddai darn o bren yn cael ei roi i unrhyw blentyn fyddai'n cael ei glywed yn siarad Cymraeg yn yr ysgol, i'w drosglwyddo i'r nesaf fyddai'n siarad yr iaith. Ar ddiwedd y wers, y plentyn oedd 芒'r Welsh Not fyddai'n cael ei gosbi. Ond yn 么l yr hanesydd John Davies, o'r braidd i'r defnydd o'r Welsh Note fod mor eang ag yr haera mytholeg yr ugeinfed ganrif.

Mae yna dystiolaeth gadarn am y Welsh Not yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Meirionydd cyn 1870 ond ni fu erioed yn bolisi swyddogol y llywodraeth. Fe'i defnyddiwyd mewn nifer o ysgolion, o ysgolion National yr Anglicaniaid i ysgolion British yr Anghydffurfwyr. Ond ysgolion gwirfoddol oedd y rhain ac os oedd gan y prifathro bolisi Welsh Not fe fyddai'r rhieni yn sicr wedi cydsynio.

Efallai nad oedd deddf yn gwahardd siarad Cymraeg yn yr ysgolion ond nid oedd y llywodraeth yn cefnogi nac yn cydnabod yr iaith. Roedd effaith tymor hir y Cymal Iaith yn Neddf Uno 1535 i'w deimlo o hyd. Nid oedd y Gymraeg yn iaith sefydliadol na swyddogol ac yn Oes Victoria a'r Ymherodraeth Brydeinig yn ei hanterth nid oedd y Gymraeg yn gyfrwng addysgu addas. Yn y cyfnod hwn yr oedd i gonfensiwn yr un grym, fwy neu lai, a'r ddeddf; yn 么l confensiwn (a chyda chefnogaeth y mwyafrif) Saesneg oedd yr unig gyfrwng addas i addysgu.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.