主播大秀

Ail-gread o streic 1926 yn y gyfres ddrama 'The House of Eliott'.

Rhwng y rhyfeloedd - 1918 - 1939

29 Awst 2008

Colli tir fu hanes y Gymraeg rhwng 1914 a 1939. Y Rhyfel Byd Cyntaf, dirwasgiad economaidd a'r cyfryngau Seisnig oedd yn rhannol gyfrifol am hyn.

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf gryn effaith ar y Gymraeg. Amcangyfrifir bod tua 20,000 o siaradwyr Cymraeg wedi cael eu lladd yn y brwydro. Mae'r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) o Drawsfynydd yn symbol ingol o genhedlaeth a gollwyd. Bu farw yn Ffrainc ychydig cyn i'w gerdd ennill Cadair Eisteddfod Penbedw yn 1917.

Dengys Cyfrifiad 1921 bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 43.5% o'r boblogaeth i 37.1% yn ystod y degawd trawmatig hwn.

Ychwanegodd trafferthion economaidd y 1920au a'r 30au at broblemau'r iaith. Profodd ardaloedd amaethyddol gorllewin Cymru, lle'r oedd y mwyafrif yn dal i siarad Cymraeg, galedi mawr. Gadawodd llawer o'r to iau y tir i fynd i chwilio am feysydd brasach mewn mannau eraill, gan adael poblogaeth oedd yn heneiddio. Yn siroedd Ceredigion, Meirionydd, Caernarfon a M么n, roedd nifer y marwolaethau'n aml yn fwy na'r genedigaethau.

Ar 么l Streic Fawr 1926 fe deimlodd yr ardaloedd diwydiannol Cymreig effaith lym y dirwasgiad. 脗'r economi ar i lawr nid peidio a wnaeth y mewnfudo i'r meysydd glo, ond fe ddechreuodd y gweithwyr adael. Roedd llawer ohonynt o ardaloedd Seisnigedig maes glo'r dwyrain, nid fod llawer o gysur yn hynny: yr oedd yr economi cyfan yn teimlo'r effaith. Rhwng 1925 a 1939 fe adawodd 390,000 o bobl Cymru i fynd i chwilio am waith.

Byddai'n rhaid aros tan yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) am adfywiad economaidd yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod hwn daeth Saesneg yn fwy amlwg ym mywyd bob dydd Cymru. Cynyddu wnaeth poblogrwydd y papurau dyddiol, yn enwedig yn ystod y Rhyfel pan oedd pobl yn awyddus i gael y newyddion diweddara. Dechreuodd y gwasanaeth radio, a dyma hefyd ddyddiau cynnar ffilmiau sain y sinema. Saesneg oedd yr iaith. Codwyd rheilffyrdd a ffyrdd gan ei gwneud hi'n haws i bobl ddod i Gymru.

Fel dywed Janet Davies yn ei llyfr ar yr iaith Gymraeg, bob haf roedd Saesneg yn atseinio mewn pentrefi diarffordd, lle'r oedd dim ond y Gymraeg wedi'i chlywed am 15 canrif.

Nid oedd gan y Gymraeg unman i guddio.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.