主播大秀

Enwau lleoedd yn Awstralia

Enwau Lleoedd Cymreig

Gethin Matthews yn cael ei atgoffa o Gymru ym mhen draw'r byd.

Wrth ymweld 芒'r Awstralia gyfoes mae'n rhaid chwilio'n ofalus iawn i ddod o hyd i olion o'r Cymry a gynorthwyodd i sefydlu'r wlad.

Ond wrth edrych yn ofalus mae'r Cymry wedi gadael eu h么l ar ddiwylliant Awstralia, ac ar fap cyfoes y wlad.

Roedd tudalen flaen y Sydney Morning Herald yn ddiweddar yn addo "Full Eisteddfod Results" yn yr atodiad, am gystadlaethau lleol yn y celfyddydau.

Er bod iaith yr eisteddfodau cyfoes yn wahanol i iaith y cystadlaethau a sefydlwyd yn Oes Victoria, mae'r rhinweddau yn ddigon tebyg.

Ond gofynnwch i Awstraliaid beth yw tarddiad y gair 'eisteddfod' ac maent yn anymwybodol o'r cysylltiad 芒 Chymru.

Enwau lleoedd

Ffordd arall amlwg y mae'r Cymry wedi gadael eu h么l ar y wlad yw trwy enwau rhai lleoedd.

Serch hynny, does dim ffordd amlwg, gyda llaw, o egluro pam y rhoddodd Capten Cook yr enw "New Wales" neu "New South Wales" ar arfordir dwyreiniol y wlad, pan nad oedd unrhyw gysylltiad cryf rhyngddo 芒 Chymru.

Mae dwy dref lewyrchus o'r enw Swansea, un ar ynys Tasmania ac un yn Ne Cymru Newydd.

Yr hynaf yw'r dref ar lannau dwyreiniol Tasmania, a sefydlwyd yn y flwyddyn 1821 gan George Meredith, Sais oedd 芒 gwreiddiau Cymreig, yn briod 芒 merch o Sir Benfro, lle'r oedd yn berchen ar dir cyn iddo fentro i ddechrau o'r newydd ym mhendraw'r byd.

Meredith oedd yn gyfrifol am newid enw'r porthladd bychan o Great Swanport i Swansea, ac am roi'r enw Glamorgan ar y sir leol.

Ond unwaith eto, does dim eglurhad hawdd am y dewis hwn, gan nad oedd gan Meredith gysylltiad amlwg 芒 Morgannwg.

Wrth grwydro'r dref hardd heddiw fe welir casgliad o enwau Cymreig ar y tai: Plas Newydd, Cambria a Llanstinnan.

I fyny'r arfordir mae pentref bychan o'r enw Llandaff - er y cyfan sydd ar 么l bellach yw un t欧 a mynwent - ac i lawr yr arfordir mae pentref Pontypool.

Rhai'n garcharorion

Nid o'i wirfodd y teithiodd pob Cymro oedd yn rhan o'r sefydliad gwreiddiol ym mhendraw'r byd.

Fe glustnodwyd ugain o garcharorion i gynorthwyo Meredith gyda'r gwaith o wladychu'r tir ac yr oedd gan bedwar ohonynt enwau Cymreig.

Hanes diweddarach sydd i Swansea, NSW, tref sydd ar yr arfordir rhyw awr a hanner i'r gogledd o Sydney.

Newidiwyd yr enw o 'Pelican Flats' ym 1887, ar gais dyn busnes lleol o'r enw Robert Talbot.

Dywed yr hanes swyddogol iddo ef weld tebygrwydd rhwng y tir fan hyn a lleoliad Abertawe - ond mewn gwirionedd dyw'r honiad yma ddim yn taro deuddeg.

Mae Swansea NSW ar benrhyn isel, rhwng y M么r Tawel a Llyn Macquarie, a does dim byd tebyg yno i'r bryniau sy'n codi'n serth o Fae Abertawe.

Trefi eraill

O fewn ychydig filltiroedd i Swansea mae mwy o drefi a chanddynt enwau Cymreig, a fan hyn mae'r cysylltiad 芒 De Cymru yn amlycach.

Trefi glofaol oedd Cardiff, Aberdare a Neath, NSW, ac wrth edrych ar hanesion cynnar y glowyr mae enwau Cymreig yn ddigon amlwg.

Mae'r arwydd sy'n croesawu rhywun i Neath yn datgan ei fod "a tidy town", sy'n gwneud i rywun o Dde Cymru deimlo'n gartrefol iawn!

Ac yn y gwesty lleol, yn hongian ar y wal wrth ochr crys y t卯m lleol (rygbi'r gynghrair) mae crys t卯m rygbi Castell-nedd.

Tybed a yw hyn yn arwydd fod rhai o drigolion Neath heddiw yn falch o'u perthynas 芒'r chwaer dref n么l yn yr hen wlad?


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.