主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

主播大秀 主播大秀page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
H. Chiswell, Bob Delyn...
Tyrfe Tawe, 2004
Alun Rhys Chivers


Llun gan Chris Reynolds

1) Lle a phryd

Adam and Eve, High Street, Abertawe, Nos Wener
Subterranea, Wind Street, Abertawe, Dydd Sadwrn
T欧 Tawe, Stryd Christina, Abertawe, Dydd Sul


2) Y bandiau

Niem, Fflur Dafydd a'r Band, Neil Rosser a'r Band, Meic Stevens a'r Band (Nos Wener), Y Bachgen Glas, Lisa Pedrick, Mari Lwyd, Lo Cut a Sleifar, Stics, Frizbee, Boys From The Hill, Kentucky AFC, Bob Delyn a'r Ebillion (Dydd Sadwrn), Mattoidz, Huw Chiswell (Dydd Sul)

3) Awyrgylch

Dyma flwyddyn sefydlu 'Tyrfe Tawe', ac roedd pawb yn ysu am flasu ychydig o ddiwylliant Cymreig yn ninas Abertawe, rhywbeth na chafwyd ar y raddfa hon yn y ddinas erioed o'r blaen. A pha gwell ffordd o ddechrau'r penwythnos na noson yng nghwmni Meic Stevens, gyda'r Adam and Eve dan ei sang? Roedd y dyrfa, oedd yn gymysgedd enfawr o ran oed, yn rocio i seiniau clasuron y 'Brawd Houdini', mewn tafarn sydd yn enwog am ei cherddoriaeth byw. Gwelwyd geiriau caneuon ar recordiau finyl ar y muriau, sydd yn rhoi awyrgylch gerddorol wych i'r lle. Ac roedd hyd yn oed ychydig o ddiarhebion Cymraeg wedi'u gosod yma a thraw! Roedd y lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer gig o'r fath yma, ac yn creu naws agos atoch.

Roedd 'Subterranea', seler y 'No Sign Wine Bar', yn lleoliad gwych ddydd Sadwrn, gyda digon o le ac roedd y tymheredd yn eithaf oer - dwy elfen o'r lle a werthfawrogwyd gan y rheini yn y dorf oedd yn dawnsio'n egn茂ol am ran fwyaf y noson. Roedd dawns 'Conga' yn digwydd ar un adeg, hyd yn oed! Roedd y rhan fwyaf o'r dorf yn fyfyrwyr (o Gaerdydd, yn bennaf - siomedig oedd gweld cyn lleied o fyfyrwyr Abertawe yno!). Ond roedd digon o bobl yn eu tridegau yno hefyd!

Cafwyd terfyn llawn naws i'r noson, gyda fersiwn unigryw Twm Morys o'r Anthem Genedlaethol, gyda phawb erbyn hyn yn llawn emosiwn, a gwelwyd ambell ddeigryn yn llygaid y Pwyllgor, hyd yn oed!

Roedd gig acwstig Mattoidz a Huw Chiswell yn ddiweddglo gwych i'r penwythnos, mewn awyrgylch ymlaciedig yn Nhy Tawe. Roedd trawstoriad o oedrannau yno, gyda rhai hyd yn oed yn cofio clasuron Chis pan gawsant eu rhyddhau y tro cyntaf un!!!

Profodd y tri lleoliad i fod yn llwyddiannus, gyda phob un yn llawn dros y tridiau.

4) Trac yr 诺yl
Rhaid dweud mai'r trac sy'n sefyll allan i fi yw 'Nos Fawrth yn Abertawe' gan 'Mari Lwyd', band gwerin a ffurfiwyd gyda'r bwriad o berfformio dros y penwythnos, ac sydd yn cynnwys tri o'r trefnwyr. Bu'r Pwyllgor yn cwrdd yn rheolaidd ar nos Fawrth i drefnu'r wyl, ac mae'n hawdd felly i weld pam fod y g芒n mor addas i 'Tyrfe Tawe'.

5) Disgrifiwch y perfformiadau

Gormod o berfformwyr i fanylu arnynt - cymysgedd enfawr o wahanol fathau o gerddoriaeth, oedd yn amrywio o fandiau ifainc fel Stics a Mattoidz i eiconau cerddoriaeth Gymraeg, Meic Stevens a Huw Chiswell. Chwaraewyd pob math o gerddoriaeth, o setiau acwstig Mattoidz i roc Kentucky AFC. Cafwyd ychydig o gerddoriaeth bres, hyd yn oed, gan Neil Rosser a'r Band. Fe brofon nhw i fod yn hynod boblogaidd gyda'r dorf ar nos Wener. Cafwyd perfformiadau gwerin gan 'Y Bachgen Glas' a 'Mari Lwyd'. Roedd llais unigryw Lisa Pedrick, y ferch leol, yn hynod boblogaidd gyda phawb. Cafwyd ychydig o roc trefol (urban rock) gan Boys From The Hill. Roedd hip-hop ar gael i'r rheini sydd yn hoffi'r math yma o gerddoriaeth, gyda pherfformiad bywiog gan Lo-Cut a Sleifar.

I grynhoi, roedd y perfformiadau yn fywiog, hwyliog a Chymraeg!!!

6) Uchafbwynt yr 诺yl

Ar y nos Wener, teimlwyd rhyddhad wrth i Meic Stevens gloi gyda pherfformiad iasoer o 'Erw芒n', wedi iddo stopio ar ei chanol hi yn gynt yn y noson!!! Perfformiad gwefreiddiol gan Frizbee, band sydd wedi bod yn hynod gefnogol ers dechrau 'Tyrfe Tawe'. Maen nhw'n ymddangos i fod yn mynd o nerth i nerth. Cynyddodd y nifer o bobl oedd yn dawnsio wrth iddyn nhw ddechrau gyda 'Hanner canllath o dy dy di'...Gwyddai pawb wrth glywed y llinell gyntaf fod y perfformiad yn mynd i fod yn un cofiadwy! Rhaid dweud mai uchafbwynt cyffredinol oedd gweld llwyddiant y penwythnos.

7) Y peth gwaethaf am yr 诺yl

Y ffaith iddi orfod dod i ben sy'n dod i feddwl yn syth. Hefyd, roedd y ciw am y bariau yn y lleoliadau'n warthus. Roedd yn drueni i weld bod gymaint o bobl yn amharod i dalu 拢2.50 am raglenni pan fo'r cyfan oll dros y penwythnos yn rhad ac am ddim!

8) Achlysur Roc a R么l

Lo-Cut a Sleifar vs. Y Bownsars - dadl dros gan o 'Stella', credwch neu beidio!!! Th芒l hi ddim i fynd ag alcohol ar y llwyfan, bois!!!

9) Beth sy'n aros yn y cof?

Ar y nos Wener, fe wnaeth Neil Rosser sylwad fydd yn aros gyda fi am amser hir - "Wnes i erioed feddwl y bydde gig Cymraeg yn yr Adam and Eve, Abertawe". Trawyd pawb gan realiti'r digwyddiad wrth i Twm Morys lafarganu 'Tyrfe Tawe' tuag at ddiwedd y nos Sadwrn!

10) Talent gorau'r 诺yl

Stics - band ifanc, egn茂ol sydd yn addo llawer ar y s卯n Gymraeg yn y dyfodol. Mae Mattoidz hefyd yn sefyll allan am eu gig acwstig yn Nh欧 Tawe. Er, dywedwyd gan rai mai talent gorau'r wyl oedd merch wrth ymyl y llwyfan a benderfynodd dynnu ei throwsus i lawr a dangos ei phen 么l i'r perfformwyr!!!

11) Marciau allan o ddeg

9/10 - dechrau gwych i'r 'Tyrfe', sydd yn ei gwneud yn demtasiwn i roi 10/10 iddi - mae gen i deimlad y bydd hi'n amhosib rhoi llai na 10/10 iddi'r flwyddyn nesaf!!!

12) Un gair am y gig

Tyrfe-tastig - term a fathwyd yn gymharol gynnar yn y penwythnos (gan gadeiryddes Pwyllgor Tyrfe Tawe), ac un fydd yn aros ar wefusau pawb!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Dewch yn gynnar y flwyddyn nesaf i osgoi siom - mae'n debygol o fod yn orlawn os yw eleni'n arwydd o'r hyn sydd i ddod!

Lincs Gwefan:

www.tyrfe-tawe.com
Noson lawnsio'r 诺yl



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy