主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

主播大秀 主播大秀page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Mattoidz, Sleifar, Java
Caerfyrddin, Medi 2004
Lowri Johnston


Lle a phryd
Neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Nos Wener, Medi 17eg, 2004

Y bandiau
Garej Dolwen, Rasputin, Java, Chef (oherwydd absenoldeb Lo-Cut) a Sleifar, Mattoidz.

Awyrgylch
Mae'r awyrgylch yn gr锚t, a'r lle yn llawn yn reit gynnar. Mae gan pob band llawer o gefnogwyr yn y gynulleidfa, sy'n sicrhau bod pob band yn cael ymateb da.

Trac y noson
Sos Coch gan Mattoidz. Dyma'r trac chwaraeon nhw i orffen y set, gan newid y geiriau i "Ti'n dweud Carmarthenshire, Dwi'n dweud Sir Gaerfyrddin".

Gan mai noson "Herio'r Welsh Not" oedd hon, ac i helpu'r ymgyrch i gael Radio Carmarthenshire i roi mwy o ddefnydd i'r Gymraeg gan ei wneud hi'n orsaf "ddwyieithog" fel mae'n nhw'n dweud ydyn nhw, mae pawb yn mynd yn nyts yn ystod y g芒n yma, gan arddangos teimladau cryf pobl ifanc yr ardal at y mater.

A dweud y gwir, mae pob band heno yn chwarae c芒n sy'n cwestiynnu statws yr iaith Gymraeg, ac agwedd pobl tuag ati. Pwy ddwedodd bod pobl ifanc yn apathetig?



Disgrifiwch y perfformiadau
Garej Dolwen sy'n agor y noson. Dyna i gyd alla i ddweud am y perfformiad yw dydyn nhw ddim y fath o gerddoriaeth dwi fel arfer yn hoffi. Merch sy'n ffryntio, ac mae ganddi lais neis iawn, ond dyna fe - mae'r set cyfan yn 'neis' a dim byd arall. Does dim 'wmff' yma, dim egni na gwir arddeliad. Er hynny, ceir tipyn o amrywiaeth yn y set, a rhai caneuon yn well na'i gilydd, ond ar y cyfan, doedd e ddim at fy nant i.

Mae Rasputin ar y llaw arall yn llawn arddeliad. Dyma sypreis gorau'r noson - dwi erioed wedi clywed y band yma o'r blaen, ond fe fwynheais eu set yn fawr. Mae'r g芒n gyntaf (nes i ddim dal yr enw sori!) yn wych, ac yn dal sylw'r gynulleidfa yn syth. Wrth iddynt wneud eu fersiwn nhw o 'Johnny B Good', mae pawb yn rhedeg i flaen y llwyfan ac yn dawnsio'n wyllt. Mae hyn yn anffodus braidd, achos mae nhw'n chwarae'r g芒n ddwywaith ac mae'r ail dro yn para am oes. Quit while you're ahead bois.

Java sy'n dilyn. Wedi ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau C2 ac yn gyd- enillwyr yng nghystadleuaeth brwydr y bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Casnewydd, mae'r band yma wedi cael tipyn o sylw'n ddiweddar. Does dim dwywaith bod yma dalent a photensial i ddatblygu ymhellach. Gyda'u cerddoriaeth steil 'Rage-Against-The-Machine-aidd', mae'n llawn caneuon gafaelgar ac egn茂ol. Gwyliwch allan amdanyn nhw.

Gan nad yw Lo-Cut yn medru bod yn bresennol heno, Chef (o'r Tystion gynt) sy'n cymryd ei le ar y meic gyda Sleifar. Mae yna bartneriaeth arbennig rhwng Chef a Sleifar, a gobeithio yn wir y cawn glywed mwy ganddynt yn y dyfodol. Gyda Aled 'psycho' o'r grŵp lleol y Supernaughts ar y bas, mae'r set gyfan yn dynn ac yn bendant yn uchafbwynt.

Mattoidz sy'n cloi'r noson. Does dim dwywaith bod y band yma wedi datblygu yn aruthrol ers dechrau'r flwyddyn - dyma ddangos cymaint mae band yn medru gwella gydag ymarfer, dyfalbarhad a thipyn o amynedd. Prynu Ty yn Tidrath a Sos Coch yw dau o uchafbwyntiau'r set, ac mae nhw wir yn rocio a'r gynulleidfa yn dwlu arnyn nhw. Da iawn i'r bandiau i gyd a da iawn i Gymdeithas yr Iaith am drefnu gig mor wych!



Y peth gwaethaf am y noson
Maint y bar! Llawer rhy fach, ond fe wnaeth e'r job yn iawn!

Achlysur Roc a R么l
Gitarydd Rasputin yn crowd syrffio ar ddiwedd eu set!

Beth sy'n aros yn y cof?
Y dawnsio gwyllt, a chymaint o bobl ifanc yr ardal oedd yno yn dawnsio ac yn mwynhau - mae yna obaith wedi'r cyfan!

Talent gorau'r noson
Rasputin oedd y sypreis gorau o ran talent newydd, ond Chef a Sleifar oedd yr uchafbwynt.

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am y gig
Gobaith

Unrhyw sylwadau eraill?
Mae heno wedi dangos yn fwy na dim, bod hi'n amhosib anwybyddu'r hyn sy'n mynd ymlaen yng Nghymru ac yn y S卯n Gerddoriaeth yma. Gobeithio mai yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach bydd pobl yn dechrau sylweddoli hyn.

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy