主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

主播大秀 主播大秀page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Ryland Teifi
Heno
Chwefror 2004

Ryland Teifi - Heno
'Heno' ydy CD cyntaf y canwr jazz/gwerin Ryland Teifi. Mae o wedi creu dipyn o argraff ers glanio ar y s卯n llynedd a mae'r CD yn cynnwys 11 trac newydd Gymraeg (gafodd tair eu recordio'n wreiddiol fel Sesiwn i C2).

Daeth y canwr Brychan Llyr (gynt o Jess ond erbyn hyn yn artist unigol) a'r critic Catrin Dafydd, sy'n golygu'r cylchgrawn Glas ac yn aelod o'r grwp Gilespi, i stiwdio C2 i adolygu'r CD yng nghmwni Huw Stephens. Gafodd y CD ymateb anhygoel, a dyma beth oedd gan y ddau i'w ddweud....

Catrin: "Wi'n credu bod e'n wefreiddiol - gymaint o ganeuon ysbrydoledig, gymaint o tunes i chi'n canu dro ar 么l tro, gymaint o offerynwyr sy'n glynu e gyd gyda'i gilydd.... Mae'r cynhyrchu'n wych, mae'n gyhyrog, a fi methu stopo gwrano arno fe - mae'n wych!"

Brychan: "Mae'n rhaid i fi weud we'n i ddim yn disgwyl lico fe gymaint. Dwi 'di cwrdd a Ryland droeon - o'n i'n gwybod bod e'n whare offerynne ond doeddwn i ddim yn sylweddoli bod e'n canu a canu mor dda a ysgrifennu caneuon gymaint. Mae e'n gerddoriaeth dwi gallu teimlo'n agos ato - mae'r gerddoriaeth yn cyrraedd ata i yn rhwydd."

Catrin: "Mae un g芒n, 'Si Hei', lle mae e'n canu Si Hei Lwli i'w blentyn a mae'n gwneud i ti bron 芒 crio mae e mor sensitif. Mae nhw hefyd yn tynnu n么l lle mae angen, mae nhw'n gwybod weithie bod un offeryn yn ddigon i gario fe - mae'r piano yn gelfydd, mae pibau trwy rhai caneuon yn hyfryd hefyd, mae e wir yn CD hyfryd."

Brychan: "Mae'r alawon yn cael amser i anadlu, i ddatblygu a mae'r geirie'n creu delwedde sydd yn mynd gyda'r alawon yne a sydd yn hyfryd iawn. Mae'i lais e'n swno'n aeddfed iawn hefyd... Mae 'na un g芒n sydd arno fe bydde ni falle'n ame bod e'n gweddu gyda'r gweddill cystal - y g芒n ffynci - a dyw llais Ryland ddim cweit ddigon punchy ar hwnna i dynnu fe off. Ond, iesgeth, mae fe'n albym cyntaf sy'n swno fel sa fe di bod wrthi erioed, mae'n swno fel sa fe'n hen gliper."

Catrin: "Sai'n credu bod ni wedi cael rhywbeth cweit o'r safon hyn ers amser hir iawn o ran canwr unigol - mae'n rhaid i fi fod yn onest."

Mae'r CD bellach yn y siopau ar label newydd Kissan o Gaerdydd - label sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth glasurol gan Catrin Finch (telynores y Tywysod Siarl!).

Marciau Ryland Teifi - Heno
Catrin: 9.5/10
Brychan: 8.5/10

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy