主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Rhiannon

Coroni Rhiannon

Damwain beic yn achub y dydd

Yn gywir fel y darogan, Rhiannon a enillodd goron yr Eisteddfod heddiw!

A hynny'n ychwanegu at gysylltiad yr enw 芒'r gystadleuaeth hon.

Cliciwch

Ond yr oedd diolch y Rhiannon bresennol - Rhiannon Marks - iddi lwyddo i gystadlu o gwbl i ddamwain beic a gafodd y noson cyn dyddiad cau y gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau - Rhiannon gyda'i hen brifathro, Hywel Pugh, Ysgol Gyfun Pantycelyn, LlanymddyfriPrin o ysgrif
A hithau yn brin o ysgrif ar gyfer cystadlu dywedodd i syniad ddod iddi yn sgil damwain beic yn Rhydychen lle mae'n fyfyrwraig.

"Dod yn 么l oedd teitl y gystadleuaeth a dod yn 么l o swper yn y coleg oeddwn i - ac mae yna draddodiade digon rhyfedd i'w cael yma - rydych chi'n cael gweddi yn Lladin a phawb yn eu gowns ond wrth ddod n么l roeddwn i yn y stryd yma yn llawn pobl o bob math o wledydd dros y byd a meddwl, wel falle nad yw'r traddodiadau yn y coleg ddim mor ryfedd wedi'r cyfan a phwy sydd i ddweud beth sy'n rhyfedd?"

Ac yn hel y meddyliau hyn oedd hi pan syrthiodd oddi ar ei beic a hynny ddiwrnod cyn y dyddiad cau.

"Ac roedd angen ysgrif arnaf i," meddai. "Fe ebostiais i hi at mam ac fe yrrodd hi'r gwaith i swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth imi," meddai.

Yn y gystadleuaeth gofynnwyd am ysgrif, stori fer a chyfres o lythyrau.

Ffilmio Rhiannon "Stori fer oedd fy un i, am griw o fenywod sydd yn cyfarfod yn y cyfrin i farddoni ond nad yw traddodiad barddol gwrywaidd Cymru yn gwybod amdanyn nhw. Ond maen nhw'n dysgu i gynganeddu yn y cyfrin," meddai.

"Mae hi'n rhyw gymdeithas gudd sy'n cyfarfod i gynganeddu - efallai mod i wedi bod yn darllen gormod o Dan Brown a'r syniad o gymdeithasau cudd yma!" ychwanegodd.

Dywedodd iddi gael y syniad o gerdd gan Menna Elfyn yn dyfalu tybed ai merch o'r enw Ann sydd yn yr Anhysbys a welir dan rai cerddi a gyhoeddir!

"Meddwl oeddwn i efallai bod rhywbeth yn hyn a bod menywod wedi bod yn barddoni dros y blynyddoedd ond nad ydym ni wedi clywed amdanyn nhw,"

meddai.

Yr oedd y gyfres o lythyrau a sgrifennodd yn rhai oddi wrth Forwyn Llyn y Fan Fach at yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhys.

"Ddarllenais ei fod e 芒 diddordeb yn ei hanes hi ac fe'i dychmyges i hi yn sgrifennu ato," meddai. 'Fi fy hun ar bapur'
Dywedodd ei bod wrth ei bodd yn sgrifennu ac enillodd yn barod y gadair yn eisteddfod ei hysgol, Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, a dod yn ail ac yn drydydd am goron yr Urdd y ddau dro arall y bu iddi gystadlu.

Am ei gwaith dywedodd:

"Fe ddwedodd Dafydd Rowlands - yr ydw i yn edmygydd mawr o'i waith - mai'r hyn yw ysgrif yw 'Ti dy hunan mewn geiriau ar bapur' ac rwy'n credu mai dyna yw fy llenyddiaeth i: yr hyn rydw i'n mwynhau ei sgrifennu; a gobeithio fod pobl eraill yn mwynhau ei ddarllen," meddai.

Coron fach i'w chadwLle'n byd gwell
Ar 么l ennill y goron yn ei bro ei hun dywedodd:

"Allwn i ddim fod wedi ennill mewn lle gwell - a gweld cymaint o bobl oeddwn i'n adnabod yn y gynulleidfa.

"Roeddwn i wedi bod yn cuddio oddi wrthyn nhw drwy'r bore." Am y 'Rhiannonyddiaeth' a berthynai i'r gystadleuaeth dywedodd nad oedd yn ymwybodol o gwbl ohono nes tynnwyd sylw ato yn ystod seremoni'r coroni:
"Cyd-ddigwyddiad rhyfedd," meddai.

  • Mwy am y Coroni


  • About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy