主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Medwin Hughes

Coleg yn camu i'r llwyfan

Y Drindod yn cefnogi theatr yr ifanc

Mae'r Urdd ac un o golegau Cymru wedi dod at ei gilydd i ddiogelu theatr ar gyfer pobl ifainc.

Bydd Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin yn cynnig cefnogaeth ymarferol gan ddarlithwyr a myfyrwyr i Theatr Ieuectid Genedlaethol yr Urdd am y tair blynedd nesaf.

Tuag at eu gradd
Cyhoeddwyd hyn mewn cyfarfod ar y Maes ddoe gyda phrifathro'r coleg, y Dr Medwin Hughes, yn bresennol.

Bydd myfyrwyr y coleg yn cymryd rhan mewn prosiectau dylunio ac adeiladu setiau, goleuo a sain fel rhan o'u cyrsiau gradd.
Mae'r Theatr Ieuenctid yn derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd ac yr oedd Peter Tyndall, Prif Weithredwr y Cyngor, yn bresennol yn yr Eisteddfod hefyd.

Wedi bwlch ailffurfiwyd y Theatr Ieuenctid yn sgil llwyfannu Les Miserables yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2005.

Wedi ei rhannu'n dri rhanbarth - sy'n ymarfer ar hyn o bryd - bydd y Theatr Ieuenctid yn uno ar gyfer perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn 2009.

."Mae Coleg y Drindod yn cydnabod fod datblygiad celfyddydol dwyieithog Cymru wrth wraidd ei weledigaeth am y dyfodol ac yn y Coleg rydym yn awyddus i sicrhau fod myfyrwyr yn deall pwysigrwydd cymuned a'r celfyddydau, sydd yn dathlu ein hunaniaeth a'n diwylliant unigryw," meddai'r Dr Medwin Hughes.

Wrth groesawu'r bartneriaeth newydd dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, Si芒n Eirian, y byddai'r ieuenctid hynny a elwodd o Les Miserables yn croesawu'r weld parhad hwn.

"Mae'n wych o beth fod mwy o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn mynd i gael cyfle i berfformio ar lwyfan a dysgu ystod eang o sgiliau newydd," meddai.

Profiad daniel Evans
Un actor enwog sydd wedi croesawu'r datblygiad yw Daniel Evans a fu ei hun yn aelod o Theatr Ieuenctid yr Urdd pan yn ifanc.

"Fe wnes i elwa cymaint o'r profiad - wn i ddim lle mae dechrau! Ces i gwrdd 芒 phobl newydd o wahanol ardaloedd, teithio i'r ardaloedd hynny i berfformio, gweithio ar ddeunydd da," meddai.

"Ond efallai yn fwy personol, rhoddodd flas imi o'r hyn rwy'n ei fwynhau am fod yn actor hyd heddiw sef cael bod yn rhan o gwmni, bod yn griw, ac yn rhan o d卯m. Mae'r ymddiriedaeth, yr hwyl, y difrifoldeb, yr ymarferion a'r cyfan yn cyrraedd uchafbwynt mewn un cynhyrchiad cyflawn, crwn," ychwanegodd.

  • Arwydd arall o'r cydweithrediad rhwng yr Urdd a Choleg y Drindod yr wythnos hon oedd myfyrwyr y coleg yn byscio ar y maes a hefyd yn cymryd rhan yn nefod y Fedal Ddrama a noddwyd gan y coleg.



  • About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy