主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Gareth James ar faes Caerfyrddin

Yr Urdd yn newid ysgol

Awyrgylch yn newid mewn ysgolion

Disgrifwyd sut y mae gweithgareddau'r Urdd yn gallu newid awyrgylch ysgolion yn llwyr.
Wrth dalu teyrnged i'r Urdd am yr holl wahanol gyfleon y mae'r mudiad yn ei gynnig i blant a phobl ifainc dywedodd llywydd y mudiad, Gareth James, sy'n ddirprwy brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, fod awyrgylch yr ysgol yn newid yn llwyr unwaith y mae paratoadau ar gyfer eisteddfodau'r Urdd ar y gweill.

"Tymor y gwanwyn yw'r tymor gorau yn ystod y flwyddyn gen i - pan yw'r ysgol yn ymarfer ar gyfer eisteddfodau cylch, sir ac yna y genedlaethol," meddai.

"Mae'r awyrgylch yn yr ysgol yn newid shwd gymaint gan fod y plant a rhyw egni ychwanegol ganddyn nhw a rhyw fwrlwm ychwanegol."

Yn siarad ar y Maes ddechrau'r wythnos canmolodd hefyd yr amrywiaeth o gyfleon y mae'r Urdd yn eu cynnig i blant a phobl ifainc.

Dywedodd iddo ef fod yn cystadlu ar bethau mor wahanol 芒 cherddoriaeth a gymnasteg gyda'r mudiad pan yn blentyn.

"Mae'r Urdd yn gallu darparu ar gyfer pawb a phopeth - mae rhywbeth gennym i'w gynnig i bawb," meddai.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy