主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Manon Wyn Williams

Medal am dagu a gwenwyno

Gweinidog a'i howsgipar beryg

Comedi ddu am wraig ganol oed yn tagu gwraig y gweinidog ac wedyn yn gwenwyno'r gweinidog ei hun a enillodd y Fedal Ddrama i Manon Wyn Williams yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Syrthio mewn cariad
Er mai monolog yw C芒r dy Gymydog dywedodd Manon bod nifer o gymeriadau yn y ddrama ond y rheini'n cael eu chwarae gan y wraig sy'n syrthio mewn cariad 芒 gweinidog y mae'n gofalu am ei d欧.

Mae pethau'n mynd mor ddrwg mae'n tagu gwraig glaf y gweinidog a phan yw'r gweinidog yn ymwrthod 芒 hi mae'n ei wenwyno yntau.

Heledd Sion yn holi Manon Wyn Williams  ar gyfer Radio Cymru Yn actores ei hun, wedi bod yn actio gyda Theatr Ieuenctid M么n a Theatr Fach Llangefni - dywedodd Manon, 20 oed, sy'n dod o Rosmeirch, Ynys M么n, iddi greu'r cymeriad mewn ffordd y byddai hi yn hoffi ei hactio - gydag amrywiaeth o acenion.

Ond dywedodd mai Olwen Rees oedd ganddi hi mewn golwg ar gyfer y rhan - ond ei bod wedi phlesio hefyd gyda dehongliad Iola Gregory fel rhan o'r seremoni'r Fedal Ddrama ar lwyfan yr Urdd.

"Yr oedd yn ddehongliad gwahanol i beth oeddwn i wedi ei feddwl ac yr oeddwn i'n falch ohono," meddai.

Yn ysgogiad
Ychwanegodd ei bod yn hynod falch o feirniadaeth Siwan Jones, awdur Con Passionate ar ei gwaith.

"Mae cael eich canmol yn golygu lot ac yn ysgogiad i sgrifennu eto ac yn rhoi syniad o sicrwydd ichi," meddai.

Mae hwn yn gyfnod hynod o lwyddiannus i Manon a hithau wedi ennill medal ddrama a dwy wobr arall yn Eisteddfod M么n bythefnos yn 么l - Tlws yr Ifanc a'r Fedal Ryddiaith.

Manon Wyn Williams A dydd Sadwrn mae'n gobeithio cipio prif wobr arall ar lwyfan yr Urdd - yn aelod o Aelwyd yr Ynys mewn cystadleuaeth chwarter awr o adloniant.

Ond o ran sgrifennu dywedodd nad oes ganddi syniad beth ddaw nesaf.

i ddarllen y stori newyddion



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy