主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Rhys Taylor

Bryn Terfel yn werth miloedd

Enw ysgoloriaeth yn werth mwy na'r arian

Mae'r geiriau Bryn Terfel sydd wrth enw'r ysgoloriaeth a roddir bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd werth milwaith mwy na'r wobr ariannol yn 么l enillydd y llynedd.

Disgrifiodd Rhys Taylor yr enw "Ysgoloriaeth Bryn Terfel" fel "pasport cymdeithasol" i unrhyw un yn y byd cerddorol ar hyd a lled y byd.

Yr oedd Rhys, sydd yn offerynnwr addawol, ar ymweliad 芒'r eisteddfod ddoe (dydd Gwener).

Newid ei yrfa
"Rhaid imi ddweud a'm llaw ar fy nghalon fod yr ysgoloriaeth yma wedi newid fy ngyrfa i mewn ffordd anhygoel," meddai mewn cyfarfod gyda'r Wasg.

Ac ychwanegodd fod cael enw Bryn Terfel wrth yr ysgoloriaeth werth llawer iawn mwy na'r 拢4,000 y mae'r enillydd yn ei dderbyn.

"Fel yr ydw i wedi darganfod mae'r ffaith fod yr enw Bryn Terfel i lawr ar fy CV yn rhyw fath o basport cymdeithasol," meddai.

Ac am y pedair mil cyfaddefodd nad oedd wedi eu gwario ar hyn oedd o'n i fwriadu:

"Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n eu gwario ar wersi ond rydw i wedi ei wario ar wireddu breuddwyd bersonol o ryddhau CD ac mae'r arian wedi fy helpu fi wneud hynny," meddai.

Cymry Los Angeles
Ymhlith profiadau cofiadwy ei flwyddyn yr oedd perfformio i Gymry Los Angeles.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod y fath beth i'w gael ond mae'n gymuned anferth. Roedd cymaint o bobl yn y capel lle'r oeddwn i'n perfformio a phob un yn ymfalch茂o fy mod i wedi ennill yr ysgoloriaeth yma ac yn teimlo eu bod nhw'n gallu uniaethu a fi oherwydd Bryn Terfel," meddai.
"Mae'r ffaith fod enw Bryn Terfel ar yr ysgoloriaeth yn gwbl werthfawr ac yn filwaith mwy gwerthfawr na'r pedair mil o bunnau," meddai.

"Ac rwy'n si诺r y bydd enillwyr eleni yn cael rhyw gatapwlt i'r byd cerddorol," meddai.

Cofio cystadlu
Yr oedd ei ymweliad yn gyfle iddo hefyd hel atgofion am ei ddyddiau cynnar yn gystadleuydd hefyd:

"Dechreuais gystadlu n么l yn 1991 - rwy'n ei gofio fel ddoe bod ar y bws gydag Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

"Cefen y bws, teimlo'n s芒l, pawb yn bwyta strawberry bon-bons - ac rwy'n gallu eu harogli nawr.

"Ac rwy'n cofio cyrraedd yr Eisteddfod a theimlo ei fod fel byd gwahanol lle'r oedd pob un yn fawr ac yn aeddfed a ninnau a'n bagiau bach a'n picnics.

"A'r cyfnod cyntaf o ddechrau cystadlu a meddwl, wow, mae hwn yn gyfle ffantastig i bobl ifainc yng Nghymru.

"Wedyn roeddwn i'n cystadlu efo'r ysgol Gymraeg am flynyddoedd ac roedd yn fath o bererindod ac hyd yn oed os nad oeddem yn cystadlu yr oedd trip i'r Steddfod," meddai.

Cyfle gwych
"Ond wrth gystadlu wedyn yn unigol fe sylweddolais i faint oedd yr Urdd yn ei olygu i berfformwyr ifainc - yr oedd yn gyfle nad yw lot o bobl yn ei gael i fod ar lwyfan a chware i gynulleidfa genedlaethol - neu ryngwladol."

Disgrifiodd ymweliad 芒 Chernyw yr wythnos hon a chyfarfod Americanwyr yn gwylio'r Eisteddfod ar deledu lloeren gan ryfeddu fod pobl ifainc yn cael y fath gyfle i berfformio.

"Fe eisteddon nhw ar fy mhwys i am bedair neu bum awr yn gwylio'r Eisteddfod ac roedden nhw'n methu credu'r peth ac yn methu credu yr hyder sydd gan y plant a'r cyfle sydd ganddyn nhw i berfformio," meddai.

Heb glywed
"Yn Lloegr hefyd does dim llawer o bobl wedi clywed am yr Eisteddfod - doedd fy athro i oedd yn byw yn Lerpwl ddim.

"Mae pobl yn methu deall fod yna fudiad gyda phlant a phobl ifainc yn canu mewn pabell, yn adrodd ac yn llefaru mewn pabell i'r holl wlad ac rydym yn gweld o ddydd i ddydd bobl sydd wedi bod yn perfformio yn yr Eisteddfod yn gwneud enw mawr iddyn nhw eu hunain," meddai.

  • Yr wyth fydd yn ymgiprys am Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni fydd:
  • Glesni Fflur, Llanfor, Y Bala - Unawd o sioe gerdd
  • Elliw Mai, Bangor - Unawd Cerdd Dant
  • Eirlys Myfanwy Davies, Llanelli - C芒n werin
  • Llio Eleri Evans, Porthaethwy - Unawd 19-25
  • Manon Wyn Williams, Llangefni - Cyflwyniad dramatig
  • Elin Mair, Caernarfon - Llefaru
  • Gareth Rhun Jones, Llangefni - Dawns werin
  • Alec Thomas, Caerdydd - Offerynnau
    Bydd gwersi meistr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin y mis nesaf a dewisir pwy fydd yn derbyn yr ysgoloriaeth ym Mhontyberem fis Medi.



  • About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy