主播大秀

A week of celebrating learning Welsh on 主播大秀 Radio Cymru

主播大秀 Radio Cymru will be celebrating learning Welsh this year with a special week of programmes during October. The week will provide a unique platform for Welsh learners and will celebrate their contribution.

Published: 6 August 2019
主播大秀 Radio Cymru is home to everyone, from all ages and linguistic backgrounds, who wants to listen to music and programmes in Welsh, therefore we’re very proud to be able to celebrate Welsh learners with this special week.
— Rhuanedd Richards

The provision will include:

  • An additional news bulletin for learners every night at 8pm
  • An opportunity for a group of learners to take over Ifan Evans’ programme every afternoon
  • A guest editor for Post Cyntaf
  • Announcing the result of the poll featuring the favourite words of Welsh learners
  • An additional podcast for learners with the presenter and Welsh learner Wynne Evans reading from his autobiography
  • New episodes of Hanes yr Iaith by the bard Ifor ap Glyn, discussing some of the words featured in the poll on favourite Welsh word

The aim of the week is to provide a platform for more learners’ voices as well as providing more useful content for Welsh learners.

The week will be held mid-October, to coincide with Diwrnod Shwmae Su’mae, and stems from a special partnership between 主播大秀 Radio Cymru and the National Centre for Welsh Learning.

Rhuanedd Richards, Editor of 主播大秀 Radio Cymru, says: “The purpose of this week is to celebrate learning Welsh, expand the provision available and provide a platform for learners’ voices. We know that Radio Cymru is an important resource for a number of learners, and can give them access to wider Welsh culture. That is certainly the experience of my own family members who are learning Welsh.

“主播大秀 Radio Cymru is home to everyone, from all ages and linguistic backgrounds, who wants to listen to music and programmes in Welsh, therefore we’re very proud to be able to celebrate Welsh learners with this special week”.

Efa Gruffudd Jones, Chief Executive at the National Centre for Learning Welsh, says: “Creating opportunities for learners to practice their Welsh is an important part of the Centre’s work and we know that our learners enjoy using their Welsh by listening to Radio Cymru.

"This special week will also be an opportunity to celebrate the enthusiasm and commitment of those learning the language.

“The Centre and Radio Cymru have already collaborated to provide learners’ resources, available from our website, , and we’re very proud to build on that relationship by supporting the week of celebrating Welsh Learning.”

GE

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 主播大秀 Radio Cymru

Fe fydd 主播大秀 Radio Cymru yn dathlu dysgu Cymraeg eleni gyda wythnos arbennig o arlwy yn ystod mis Hydref. Bydd yr wythnos yn rhoi platfform unigryw i ddysgwyr Cymraeg ac yn dathlu eu cyfraniad i’r byd Cymraeg.

Ymysg yr arlwy fe fydd:

  • Bwletin newyddion ychwanegol bob nos am 8pm ar gyfer dysgwyr
  • Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar rhaglen Ifan Evans
  • Golygydd gwadd ar gyfer y Post Cyntaf
  • Cyhoeddi canlyniad pôl sy’n gofyn beth yw hoff air y rheiny sy’n dysgu Cymraeg
  • Podlediad ychwanegol ar gyfer dysgwyr gyda’r cyflwynydd a dysgwr Cymraeg Wynne Evans yn darllen o’i hunangofiant
  • Penodau newydd o Hanes yr Iaith gan y prifardd Ifor ap Glyn, yn trafod rhai o’r geiriau yn y pôl “hoff air Cymraeg”

Bwriad yr wythnos yw rhoi llwyfan i fwy o leisiau dysgwyr yn ogystal a darparu mwy o gynnwys defnyddiol i’r rheiny sy’n dysgu’r iaith.

Bydd yr wythnos yn cael ei chynnal ganol mis Hydref, i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, ac mae’n ffrwyth partneriaeth arbennig rhwng 主播大秀 Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd 主播大秀 Radio Cymru: “Pwrpas yr wythnos hon yw i ddathlu’r rheiny sy'n dysgu Cymraeg, i ehangu’r arlwy sydd ar eu cyfer, a rhoi platfform i leisiau dysgwyr yr iaith. Rydym yn gwybod fod Radio Cymru yn adnodd bwysig i nifer o ddysgwyr, ac yn gallu rhoi mynediad iddynt i ddiwylliant Cymraeg ehangach. Dyna’n bendant yw profiad aelodau fy nheulu fy hun sy’n dysgu’r Gymraeg.

“Mae 主播大秀 Radio Cymru yn gartref i bawb, o bob oed ac o ba bynnag gefndir ieithyddol, sydd am wrando ar raglenni a cherddoriaeth yn y Gymraeg, felly rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dathlu dysgwyr Cymraeg gyda’r wythnos arbennig yma.”

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan a ’dyn ni’n gwybod bod ein dysgwyr yn mwynhau defnyddio’u Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru.

“Bydd yr wythnos arbennig hon hefyd yn gyfle i ddathlu brwdfrydedd ac ymrwymiad y rheiny sy’n dysgu’r iaith.

“Mae’r Ganolfan a Radio Cymru wedi cydweithio yn barod i ddarparu adnoddau i ddysgwyr, sydd ar gael trwy ein gwefan, , a ’dyn ni’n falch iawn o adeiladu ar y bartneriaeth honno trwy gefnogi’r wythnos o ddathlu Dysgu Cymraeg.”

GE