Main content

Pwnco: Her farddoni wahanol i griw 主播大秀 Sesh

Pwnco: Her farddoni wahanol i griw 主播大秀 Sesh

Noson o adloniant wedi'i ysbrydoli gan draddodiad y Fari Lwyd

Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai sgerbwd ceffyl yn ymddangos ar stepen eich drws ar nos Calan?

Dyna’r her a osododd 主播大秀 Sesh i rai o sêr ifanc y sîn gomedi Gymraeg o flaen cynulleidfa fyw.

Y Fari Lwyd a Steffan Alun

Dan arweiniad y digrifwr Steffan Alun, mae Eleri Morgan, Lorna Prichard, Siôn Owens, Lloyd Lewis, Bethan Williams Jones, Guto Rhun, Josh Elton a Priya Hall wedi rhoi cynnig ar ddadansoddi hen draddodiad ‘Pwnco’ yn eu ffordd hwyliog, unigryw eu hunain!

Ond faint ydych chi’n ei wybod am yr hen arferiad yma?

Beth yw’r Fari Lwyd?

Mae’r Fari Lwyd yn draddodiad Cymreig oedd yn gyffredin mewn rhai ardaloedd o dde Cymru yn enwedig. Dros dymor y Nadolig a'r Calan byddai rhywun yn gwisgo penglog ceffyl wedi ei addurno â rhubanau a chlychau ac yn cael ei dywys o d欧 i d欧 (neu o fferm i fferm) yn dymuno lwc dda, sgwrsio ac yfed.

Mae gwreiddiau traddodiad y penglog ceffyl yn ddwfn yn arferion hynafol y cyfnod cyn-Gristnogol. Mae rhai yn credu ei fod yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon yn y Mabinogi.

Beth yw Pwnco?

Mae’r arferiad o ganu Pwnco yn gysylltiedig â’r Fari Lwyd. Byddai criw o bobl yn mynd â’r Fari o d欧 i d欧 yn adrodd penillion. Roedd disgwyl i berchennog y t欧 ateb gyda phennill arall, a fyddai’n arwain at ryw fath o frwydr farddonol cyn bod y Fari a’i dilynwyr yn cael dod mewn i’r t欧.

Daeth yr arferiad i ben tua chanol y 19eg ganrif, yn rhannol am fod eglwysi’r cyfnod wedi dangos gwrthwynebiad i’r yfed a’r miri oedd yn gysylltiedig â’r arferiad. Ond mae diddordeb yn y traddodiad o hyd, ac mae’r Fari Lwyd yn dal i grwydro ambell i ardal yng Nghymru tua’r adeg yma o’r flwyddyn…

Felly beth ddylech chi ei wneud os daw’r Fari Lwyd i’ch cartref? Gadewch i griw 主播大秀 Sesh eich ysbrydoli!

Tradition of the Mari Lwyd - 主播大秀 Cymru

What is Pwnco?

The Mari Lwyd is a traditional Welsh custom, most commonly seen in areas of south Wales. During the Christmas and New Year period, revellers would escort the Mari Lwyd from door to door in a noisy procession. Householders would hear the crowd singing or reciting poetry outside and were expected to reply from inside before allowing the group inside.

19th Century churches and chapels began to object to growing drunkenness and rowdiness that accompanied a visit from the Mari Lwyd.

主播大秀 Sesh challenged a group of young comedians and musicians to put their own stamp on this Welsh poetic tradition.

Hosted by: Steffan Alun

Featuring: Eleri Morgan, Lorna Prichard, Siôn Owens, Lloyd Lewis, Bethan Williams Jones, Guto Rhun, Josh Elton & Priya Hall

Recorded at Tramshed, Cardiff on 26th November 2019 in front of a live audience.

Diolch i 主播大秀 Cymru Fyw