Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Ö÷²¥´óÐã iPlayer Radio ar hyn o bryd

Tai haf - rhoi'r ffidil yn y tô?

Wrth i ffigyrau newydd ddangos niferoedd uchel tai haf yn Nghymru, ydi'n bosib eu rheoli?

Ers degawdau bu tai haf yn bwnc llosg yng Nghymru - yn destun protestio a pholisiau i geisio'u hatal rhag dinistrio ardaloedd Cymreig.
Am y tro cyntaf erioed fe ryddhawyd ffigurau’r Cyfrifiad yn ddiweddar am y niferoedd gyda tai haf ym Mhrydain – ac roedd poblogrwydd parhaus Cymru yn amlwg. Felly ydi hi’n bryd newid cyfeiriad? Ac a fyddai cael gwared o dai haf wir yn achub cymunedau Cymreig?
Bydd Manylu yn datgelu pryderon bod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi – ac yn ymweld â phentrefi Llangrannog a Beddgelert i weld sut mae nifer fawr o dai haf yn effeithio'r gymdeithas.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Rhag 2012 18:32

Darllediadau

  • Mer 28 Tach 2012 14:03
  • Sul 2 Rhag 2012 18:32

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad