Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Ö÷²¥´óÐã iPlayer Radio ar hyn o bryd

Clwb Cariadon

Fel rhan o ddathliadau 80 mlynedd o ddarlledu o Fangor, mae rhai o gerddorion mwyaf talentog Cymru wedi ceisio creu EP – a hynny dros nos!

Fel rhan o ddathliadau 80 mlynedd o ddarlledu o Fangor, daeth rhai o gerddorion mwyaf talentog Cymru ynghyd i geisio creu EP mewn un noson. Yn ateb her y Sesiwn Unnos roedd Casi Wyn, Ifan Sion Davies (Sŵnami, Yr Eira), Gruff Jones (Crash.Disco, Sŵnami), Guto Gwyn Howells (Yr Eira), Gethin Griffiths (cerddor sydd wedi chwarae gyda Gwilym Bowen Rhys, a chyd-cyfansoddwr un o ganeuon Cân i Gymru 2014 gydag Ifan Davies) ac Owain Llwyd (cyfansoddwr ffilm a theledu a chyn-enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol).

1 awr

Darllediad diwethaf

Dydd Calan 2016 12:00

Gwyliwch y Sesiwn Unnos yn fyw

Gwyliwch y Sesiwn Unnos yn fyw
Cadwch lygad ar gerddorion y Sesiwn Unnos drwy gydol y nos! Bydd llif fideo byw ar wefan Radio Cymru o 7 nos Iau (Tachwedd 5ed). Byddwn yn cyhoeddi'r traciau fan hyn y bore wedyn, a bydd yr holl hanes i’w chlywed mewn rhaglen am 9 y noson honno.

Darllediadau

  • Gwen 6 Tach 2015 21:00
  • Dydd Calan 2016 12:00

Sesiwn C2

Gwrandewch ar sesiynau wedi recordio yn arbennig ar gyfer rhaglenni C2.