Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Esgob Tyddewi ac Etholiad America

John Roberts yn sgwrsio gydag esgob etholedig Tyddewi, ac yn holi beth sydd gan gymunedau ffydd i'w ddweud am etholiad America. John Roberts meets the new Bishop of St David's.

John Roberts sy'n sgwrsio gydag esgob etholedig Tyddewi, yn ogystal 芒 chlywed ymateb tair offeiriaid i'w hetholiad.

Wrth i'r ras i'r Ty Gwyn dynnu tua'i therfyn, beth sydd gan gymunedau ffydd i'w ddweud am etholiad arlywyddol America? Mae John yn cael cwmni un sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y Democrat Hillary Clinton.

Mae dinas Glasgow yn ystyried creu lle diogel i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau eu cymryd dan oruchwyliaeth. A ddylai dinasoedd eraill ym Mhrydain ystyried hyn?

Mae John hefyd yn clywed hanes menyw a deithiodd i Bolifia i weld rhai o brosiectau Cymorth Cristnogol yno, er cof am ei mamgu a oedd yn un o gefnogwyr brwd yr elusen.

Joanna Penberthy, Eileen Davies, Nia Morris, Enid Morgan, Ann Griffith, Ifor Glyn ac Eleri Twynog yw'r gwesteion.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 6 Tach 2016 08:00

Darllediad

  • Sul 6 Tach 2016 08:00

Podlediad