Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Milwyr Ifanc Uganda a Moeseg y Diwydiant Cyffuriau

John Roberts a'i westeion yn trafod milwyr ifanc Uganda, a moeseg y diwydiant cyffuriau. John Roberts and guests discuss child soldiers in Uganda.

Mae cyn-gadlywydd gyda'r Lords Resistance Army yn Uganda wedi ymddangos yn y Llys Troseddau Rhyngwladol, ac wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o droseddau rhyfel a throseddau'n erbyn y ddynoliaeth. Mae Dominic Ongwen yn honni iddo gael ei gipio pan oedd yn blentyn, a'i orfodi i fod yn filwr. Cat Jones, a fu'n gweithio yn Uganda gyda phlant a gafodd eu cipio gan yr LRA, sy'n ymuno 芒 John Roberts i ymateb.

Wedi i ddau gwmni cyffuriau gael eu dirwyo am godi ffioedd rhy uchel ar y Gwasanaeth Iechyd, mae Geraint Davies yn trafod y cwestiynau moesol sy'n codi i gwmn茂au o'r fath.

Mae Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru'n ymuno 芒 John i roi hanes Ffoi i'r Aifft, sef taith gerdded yr elusen i gynorthwyo ffoaduriaid. Mae Huw Thomas hefyd yn siarad am sefyllfa ffoaduriaid yn Nigeria.

Ganrif ers i'r Cymro David Lloyd George ddod yn brif weinidog Prydain yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf, Harri Parri sy'n trafod daliadau crefyddol Lloyd George, ac yn gofyn i ba raddau y newidiodd ei ddaliadau pasiffistaidd.

A fyddai hi ddim yn fis Rhagfyr heb ddrama'r Geni. Erbyn hyn, mae Nadolig: Y Stori yn cael ei pherfformio mewn sawl canolfan yng Nghymru. Helen Gibbon a Heather Gingell, dwy o'r actorion yng Nghaerfyrddin, sy'n s么n rhagor am beth sy'n denu dros 1,000 o blant i weld y sioe, yn ogystal 芒 nifer o oedolion.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Rhag 2016 08:00

Darllediad

  • Sul 11 Rhag 2016 08:00

Podlediad