Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cardi Noir

Pam fod Aberystwyth yn gefndir i gynifer o straeon noir? Mali Harries sy'n ymchwilio. Mali Harries investigates why Aberystwyth is the noir fiction capital of Wales.

Mae Aberystwyth a Cheredigion yn enwog i ddilynwyr straeon noir ledled y byd, gyda thirwedd yr ardal yn un o gymeriadau answyddogol cyfres ddrama Y Gwyll / Hinterland. Yn yr un modd ag y daeth 'Nordic Noir' yn derm am gyfresi dirgelwch Sgandinafaidd, mae nifer yn defnyddio 'Cardi Noir' i ddisgrifio'r hyn sydd ar droed yng Ngheredigion. Ond nid dyma'r enghraifft gyntaf.

Mae nifer o awduron a sgriptwyr wedi gosod Aberystwyth a Cheredigion yn gefndir i'w straeon ditectif a dirgelwch dros y blynyddoedd. Ymhlith yr enghreifftiau mae nofelau'r awdur Saesneg Malcolm Pryce am y ditectif preifat Louis Knight; cyfres yr awdur Cymraeg Geraint Evans am y ditectif Gareth Prior a'i d卯m; a nofel ddirgelwch Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, sydd hefyd yn ffilm wedi'i gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae'n debyg mai'r enghraifft gyntaf o 'Cardi Noir' oedd Yr Heliwr yn 1992, sef ffilm dditectif gyda Philip Madoc yn actio DCI Bain. Lyn Ebenezer a Sion Eirian oedd yn gyfrifol am y syniad gwreiddiol, a chyhoeddodd Lyn ddwy nofel yn seiliedig ar y ffilm. Fel Y Gwyll, cafodd fersiwn Gymraeg a Saesneg eu ffilmio ochr yn ochr, ac arweiniodd y ffilm at gyfres deledu o'r enw A Mind To Kill ar Channel 5 rhwng 1994 a 2002. Cafodd ei gwerthu i 24 o wledydd.

Mali Harries, yr actores sy'n portreadu DI Mared Rhys yn Y Gwyll, sy'n mynd ar drywydd 'Cardi Noir' yn y rhaglen hon, ac yn ceisio datrys y dirgelwch yngl欧n 芒 pham fod Aberystwyth a gogledd Ceredigion yn denu cynifer o awduron.

Ymysg y tystion mae'r awduron Lyn Ebenezer, Geraint Evans a Fflur Dafydd, ynghyd ag Ed Thomas a Paul Davies o d卯m cynhyrchu Y Gwyll.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 28 Ebr 2017 12:00

Darllediadau

  • Llun 12 Rhag 2016 12:30
  • Sul 18 Rhag 2016 16:00
  • Gwen 28 Ebr 2017 12:00