Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Chwilio am Esgob i Landaf

John Roberts yn trafod yr oedi wrth ddewis esgob Llandaf, ac yn dathlu 25 mlynedd o Eglwys Llanfair, Penrhys. John Roberts discusses the search for a new bishop of Llandaff.

Mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi methu 芒 dewis esgob newydd i Landaf. Mae'r cyfrifoldeb, felly, wedi'i drosglwyddo i'r esgobion, a fydd yn ymgynghori gyda chlerigwyr a lleygwyr trwy Gymru cyn gwneud penderfyniad. Mae Wyn Mears yn aelod o'r Eglwys yn Esgobaeth Llandaf, ac yn fab i gyn-esgob Bangor. Beth yw ei farn e am yr oedi, a pha fath o esgob a fyddai'n ei blesio?

Bum mlynedd ar hugain yn 么l, fe symudodd Eglwys Llanfair i adeilad ar stad Penrhys yn y Rhondda, gyda'r bwriad o gynorthwyo'r gymuned leol. Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae John Roberts yn holi Sharon Rees sut mae'r gymuned a'r eglwys wedi newid.

Gwell bod yn anffyddiwr nag yn aelod rhagrithiol o'r Eglwys Gatholig - dyna awgrymodd y Pab Ffransis mewn pregeth ddiweddar. Elfed ap Nefydd Roberts sy'n trafod arwyddoc芒d y datganiad, yn enwedig wrth i Gristnogion baratoi i nodi'r Grawys.

Menywod o Eglwys y Philipinas sydd wedi paratoi'r deunyddiau ar gyfer Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd eleni. Ond beth yw neges y diwrnod, a pham cynnal dydd gweddi o'r fath? Beti-Wyn James sy'n esbonio.

Ac yn olaf, Taith Treth Oxfam. Mae'r elusen wedi bod ar daith, yn trafod anghydraddoldeb treth. Deio Gruffydd o Oxfam sy'n s么n am yr ymweliad 芒 Chaerdydd, a'r hyn a gafodd ei drafod.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Chwef 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 26 Chwef 2017 08:00

Podlediad