Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cymdeithas Ddi-Dduw?

John Roberts a'i westeion yn trafod a ydy Cymru'n gymdeithas ddi-Dduw, a'r diweddaraf am ethol Esgob Llandaf. John and guests discuss whether Wales has become a godless society.

A ydy Cymru'n gymdeithas ddi-Dduw? Dyna a gafodd ei drafod yn Nadl Gorwel yn Hen Siambr y Cynulliad. Mae Gethin Rhys, a oedd yn rhan o'r digwyddiad, a Iolo ap Gwynn yn ymuno 芒 John Roberts i drafod i ba raddau mae'r datganiad yn wir, ac a ydy'r canlyniad yn beth da ai peidio.

Mae'r trafod am ethol esgob newydd i Landaf yn parhau. Lyn Lewis Dafis sy'n ymuno 芒 John i drafod ymateb Is-bwyllgor Cyfreithiol yr Eglwys yng Nghymru i gwynion a ddaeth i law am gyfarfod y Coleg Ethol, ac am y penderfyniad i beidio ag ystyried ymgeiswyr a gafodd eu trafod yn y Coleg Ethol, ond na lwyddodd i sicrhau dwy draean o'r bleidlais.

Chwant neu drachwant yw'r pechod marwol sy'n cael sylw yr wythnos hon, wrth i rai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw ac Ysgol Plasmawr drafod sut mae'r cyfryngau cymdeithasol yn creu pwysau i gyfleu'r ddelwedd gywir.

Bydd G诺yl Coda yn cael ei chynnal yng Nghymru yn 2018, sef g诺yl sydd wedi'i hysbrydoli gan Greenbelt. Wrth i griw o wirfoddolwyr gwrdd i drafod camau nesa'r trefnu, mae Stuart Elliott yn rhoi'r hanes diweddaraf i Bwrw Golwg.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Ebr 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 2 Ebr 2017 08:00

Podlediad