Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 主播大秀 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Crefydd a iaith Crefydd yn Etholiad Ffrainc

John Roberts yn trafod iaith crefydd yn etholiad Ffrainc, a dwy gynhadledd grefyddol yn trafod y Gymraeg. A look at how religious language has been used in the French election.

Pwy fydd Arlywydd newydd Ffrainc? Meurig Llwyd Williams, Archddiacon Ffrainc, sy'n ymuno 芒 John Roberts ar ddiwrnod yr etholiad, i drafod sut mae crefydd a iaith crefydd wedi'u defnyddio yn y frwydr dros bleidleisiau.

Sylw hefyd i ddwy gynhadledd ar yr iaith Gymraeg. Bwriad I'r Dyfroedd Byw oedd trafod lle a defnydd y Gymraeg o fewn yr Eglwys yng Nghymru. Roedd John yno i gael barn ambell un fu'n trafod, ac i sgwrsio 芒'r trefnydd, Ainsley Griffiths. Mae hefyd yn clywed gan Beti-Wyn James o Rwydwaith Merched yr Annibynwyr am gyfarfod i lansio ymgyrch i gefnogi'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth i Gymdeithas Emynau Cymru ddathlu ei hanner can mlwyddiant eleni, mae John yn ymweld ag Ysgol Undydd y Gymdeithas i holi'r cadeirydd, Rhidian Griffiths, am ei ddarlith ar alawon William Williams, Pantycelyn.

Corwynt Cariad yw enw ap锚l Cymorth Cristnogol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Anna Jane Evans sy'n s么n am arweinwyr rhai o'r elusennau yn y Philipinau a fydd yn elwa ohoni'n ymweld 芒 Chymru, ac yn trafod ei hymweliad hithau 芒'r Philipinau y llynedd.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 7 Mai 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 7 Mai 2017 08:00

Podlediad