Main content

Sel Williams

Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog. Wedi gyrfa ym maes addysg, mae'n mwynhau ei ymddeoliad yn rhan o nifer o fentrau cymunedol. Beti George chats with Sel Williams.

Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog.

Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar 么l graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud 芒 datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar 么l ymddeol.

Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nhw yng nghyd-destun un o ardaloedd tlotaf Gorllewin Ewrop.

Mae ganddo deimladau cryf am Gymru hefyd, a chyfraniad posib y wlad a'i phobl i'r byd yn ehangach. Ai'r cyfryngau cymdeithasol ydi'r ateb, tybed, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau fel prifysgolion?

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 9 Tach 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 5 Tach 2017 12:00
  • Iau 9 Tach 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad