Main content

Mike Parker

Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur a'r darlledwr Mike Parker. Beti George chats with author and broadcaster Mike Parker.

Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru.

Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin.

Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth.

Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth.

Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 18 Hyd 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Eurythmics

    Tous Les Garcon Et Les Filles

    • RCA Records Label.
  • Datblygu

    Maes E

    • Libertino.
    • Ankst.
    • 8.
  • Estella

    Cymru Rhydd

    • Tan.
    • ESTELLA.
    • 5.
  • Wilhelmenia Fernandez & The Symphonic Orchestra of London

    Aria From La Wally

    • DRG Records.

Darllediadau

  • Sul 14 Hyd 2018 12:00
  • Iau 18 Hyd 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad