Main content

Rhys Mwyn

Beti George yn sgwrsio 芒 Rhys Mwyn, sy'n adnabyddus fel cerddor, darlledwr ac archeolegydd. Beti George chats with Rhys Mwyn, known as a musician, broadcaster and archaeologist.

Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George.

Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd 芒 dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod.

Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg.

Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons.

Daeth yn aelod o'r gr诺p pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion.

Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 17 Ion 2019 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Iris Williams

    Angel

    • I Gael Cymru'n Gymru Rydd.
    • Recordiau Sain.
    • 2.
  • Plethyn

    Ymryson Canu

    • Gorau Gwerin.
    • Recordiau Sain.
  • Endaf Emlyn

    Dwynwen

    • Dilyn Y Graen CD1.
    • SAIN.
    • 2.
  • Lleuwen Steffan

    Hen Rebel

    • Gwn Gl芒n Beibl Budr.
    • Sain.

Darllediadau

  • Sul 13 Ion 2019 12:00
  • Iau 17 Ion 2019 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad