Main content

Carren Lewis

Stori ryfeddol Carren Lewis o Penrhyndeudraeth i Dwrci a n么l i Sir Benfro. Beti George chats to Carren Lewis about her life in Turkey and the story of her adopted child.

Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a n么l i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci.

Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu 芒'i gwr, ac ar 么l cyfnod anodd yn derbyn triniaeth IVF fe benderfynon nhw fabwysiadu. Mae Carren yn s么n am y cartref plant amddifaid yn Diyarbak谋r yn Nhwrci lle y daeth hi o hyd i'w mhab. Hogan fach a ddaliodd ei sylw, ond roedd ei mh芒m Ann wedi gwirioni ar fachgen bach gyda gw锚n anferth, brech yr ieir, trwyn budr a llygaid croes. Pan gafodd Carren wybod nad oedd mabwysiadu'r ddau yn opsiwn, roedd yn rhaid dewis.

Dydi Carren ddim wedi celu dim rhagddo. Wrth i blant eraill glywed straeon dychmygol gyda'r nos, roedd Bedri'n clywed am ei hanes mewn cartref yn Nhwrci. Mae bellach yn gwybod am ddyddiau cynharaf ei fywyd hefyd, yn cael ei ddarganfod yn fabi gan hogyn a glywodd s诺n cath ar ei ffordd i'r ysgol.

Dyma stori ryfeddol Carren ac yn ganolbwynt i'r stori mae Bedri Lewis.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 14 Ebr 2022 21:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Bryn F么n

    Strydoedd Aberstalwm

    • Dawnsio Ar Y Dibyn.
    • Crai.
    • 11.
  • Tecwyn Ifan

    C芒n Yr Eos

  • Dafydd Iwan

    Hawl I Fyw

    • Goreuon.
    • Sain.
    • 7.

Darllediadau

  • Sul 10 Ebr 2022 13:00
  • Iau 14 Ebr 2022 21:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad