Main content

Ceri Isfryn

Ceri Isfryn , Cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell, yw gwestai Beti George. Beti George chats to Ceri Isfryn, producer of series House of Maxwell.

Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George.

Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu鈥檔 gweithio ar gyfresi i鈥檙 主播大秀 fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama.

Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu鈥檔 perfformio yn sioeau鈥檙 ysgol 鈥 profiad gwerthfawr yn 么l Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.

Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri 鈥榮grifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda鈥檙 North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am fis a hithau 鈥榤ond yn 19 oed.

Mae Ceri wedi gweithio ar raglenni teledu am Brexit, Donald Trump a Facebook, ac yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mharis yn 2015 bu鈥檔 gweithio ar raglen yn edrych ar derfysgaeth yn Ewrop a鈥檙 achos o derfysgaeth yn Christchurch, Seland Newydd yn 2019. Bu hefyd yn gweithio ar raglen Panorama lle gofynnwyd iddi a fyddai'n fodlon mynd 鈥渦ndercover鈥 i weithio mewn cartref henoed yn Llundain.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 9 Meh 2022 21:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Eden

    Gorwedd Gyda'i Nerth

    • Yn 脭l I Eden.
    • Recordiau A3.
    • 11.
  • Old Dirty Brasstards

    Wonderwall

  • Maharishi

    T欧 Ar Y Mynydd

    • 'Stafell Llawn M诺g.
    • Gwynfryn Cymunedol.
    • 8.
  • Shirley & Company

    Shame, Shame, Shame

Darllediadau

  • Sul 5 Meh 2022 13:00
  • Iau 9 Meh 2022 21:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad