Main content

Meinir Howells

Beti George yn sgwrsio gyda Meinir Howells, cyflwynwraig teledu sydd hefyd yn ffermio. Beti George chats to Meinir Howells, TV presenter who also loves farming.

Meinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd.

Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael y cyfle i wneud gwaith tebyg 'dream job' oedd ei geiriau. Bu hefyd yn sôn fod ganddi ddyled fawr i Fudiad y Ffermwyr Ieuanc, ac na fyddai yn cyflwyno heddiw oni bai am y profiadau a gafodd gyda hwy.

Mae Meinir yn weithgar gyda’r gymuned yn codi arian tuag at elusennau gwahanol, Tir Dewi, Ambiwlans Awyr ac elusennau cancr.

Ar hyn o bryd mae hi yng nghanol ffilmio'r gyfres Ffermio, S4C a 3ydd cyfres Teulu Shadog a fydd yn cael ei darlledu mis Mawrth 2024.

Ar gael nawr

57 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 7 Medi 2023 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Dai Jones

    Mi Glywaf Dyner Lais

    • Lleisiau'r Wlad.
    • SAIN.
    • 5.
  • Tudur Huws Jones

    Angor

    • Dal I Drio.
    • Sain.
    • 1.
  • Timothy Evans

    Rhosyn Gwyn

    • Timothy.
    • SAIN.
    • 5.
  • Aled Wyn Davies

    Gweddi Daer

    • Erwau'r Daith.
    • SAIN.
    • 5.

Darllediadau

  • Sul 3 Medi 2023 18:00
  • Iau 7 Medi 2023 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad