Main content

Guto Harri

Beti George yn sgwrsio gyda Guto Harri. Beti George chats to Guto Harri.

Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George.

Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle.

Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio gyda chwmni Liberty Global.

Cawn ei hanes yn brechu pobol yn ystod cyfnod Covid-19, ac mae'n s么n am yr ergyd o golli ei chwaer, ei Dad a'i ffrind pennaf.

Ar gael nawr

1 awr, 12 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Tach 2023 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Louis Armstrong

    Moon River

    • Hello, Dolly! (Remastered).
    • Verve Reissues.
    • 8.
  • Al Lewis & Kizzy Crawford

    Dianc O'r Diafol

    • Pethe Bach Aur.
    • Al Lewis Music.
    • 4.
  • Endaf Emlyn

    Rola

    • Dilyn Y Graen CD3.
    • SAIN.
    • 9.
  • Rodrigo Amarante

    Tuyo

    • Narcos.
    • INVADA RECORDS.
    • 2.

Darllediad

  • Sul 5 Tach 2023 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad