Main content

clare e.potter

Beti George yn sgwrsio gyda'r Bardd clare e. potter. Beti George chats to poet clare e. potter about her life and work.

Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz.

Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar Ö÷²¥´óÐã Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth.

Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw.
Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith.

Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 25 Ion 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Booker T. & The M.G.'s

    Green Onions

    • Atlantic Soul (Various Artists).
    • Warner E.S.P..
  • Tina Turner

    The Best

    • Tina Turner - Simply The Best.
    • Capitol.
  • Claude Debussy

    Clair de lune

    Performer: Lang Lang.
    • Clair de Lune.
    • UME - Global Clearing House.
    • 1.
  • Lady Gaga & Bradley Cooper

    Shallow

    • A Star Is Born Soundtrack.
    • A Star is Born OST.
    • 6.

Darllediadau

  • Sul 21 Ion 2024 18:00
  • Iau 25 Ion 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad