Main content

Englyn- Y Ferch Greadigol

Tim Mari.

Ar y stryd

Gwawr arall, ac efallai y bydd un,
daw un a'm hadwaenai
â'i "Asu, mêt! Wel, su’ mai?"
i gyweirio'r hen garrai.
Annes Glynn. 9 pwynt

Tim Mererid.

Ai damwain ddwy a dimai - ydw i?
Neu ai Duw gynlluniai
I mi fod yn storm o fai -
Afallen sur efallai?
Nia Powell. 9 pwynt.

Tim Karen Owen.

Hen nain

Ar bentan mae'r cof amdani. Ni wn
ei hanes o'i geni.
Y dwr a aeth a'i stori,
i’r un lle, falle, ’r af i.

Mari Lisa . 9 1/2 pwynt.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau