Main content
Sorry, this clip is not currently available

Sbotiau – Ych!

Llion a Lara wedi trefnu mynd am dro ar y beic. Ond mae sbot mawr ar ei hwyneb. Sut mae hi’n gallu mynd?

Mae Llion (13), bachgen o ysgol Lara, yn gofyn iddi hi fynd am dro ar y beic gyda fe. Mae Lara a’i ffrindiau wedi gwirioni; ond pan ddaw’r diwrnod mawr, mae Lara (12) yn gwrthod mynd am fod ganddi bloryn enfawr ar ei hwyneb! Mae Monica (11) ac Akira (12) yn gwneud eu gorau i’w helpu hi - o golur i'w guddio i feddyginiaethau ar gyfer plorod - ond does dim byd yn gweithio ac mae Lara’n gwrthod gadael y tŷ. Mae Tony (13) yn mynd i banig pan mae’n clywed am ‘ddêt’ Lara, gan boeni y bydd y merched yn eu grŵp yn anghofio amdano fe a Gabriel (13). Mae’n trefnu ‘dêt’ dwbl iddo fe a Gabriel gyda merched newydd. Maen nhw’n mynd i loncian gyda’r merched, ond maen nhw’n cael trafferth dal i fyny, heb sôn am ddod i’w hadnabod nhw! Diolch byth, mae Akira a Monica yn cyrraedd ac yn sicrhau Tony na fydd ei ffrindiau'n ei adael ar ôl. Funudau cyn i Lara ohirio’r daith feicio, mae hi’n sylwi bod gan Llion hefyd bloryn mawr ar ei wyneb. Mae hyn yn rhoi plwc sydyn o hyder iddi ac mae hi’n mynd ar ei beic gyda Llion.

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu