Main content

Ffrindiau'n Unig

Mae’r criw yn mynd i nofio ac wrth y pwll mae’r sgwrs yn troi at gusanu. Cerdda Max (16) heibio i Monica (11) gan honni ei fod wedi cusanu’r rhan fwyaf o’r merched yn y pwll. Mae Tony (13) yn llawn edmygedd, ond mae Monica yn torri’i chalon gan ei bod wedi gwirioni ar Max. Mae Lara (12) a Gabriel (13) yn siarad am dwpdra Max a’i frolio gwirion, ac yna’n gwbl annisgwyl… yn cusanu ei gilydd! Yn syth ar ôl cusanu, maen nhw’n mynd i banig llwyr ac yn rhedeg i guddio. Mae Lara yn gofidio, ac mae Gabriel yn poeni. Mae eu ffrindiau’n gweld y gusan o’r ochr arall i’r pwll ac yn awyddus i wybod ydy Lara a Gabriel yn gariadon nawr. Mae’n rhaid i Lara a Gabriel siarad â’i gilydd a bod yn agored am eu teimladau. Efallai y byddan nhw’n synnu eu ffrindiau, ond mae bod yn onest yn angenrheidiol i’w perthynas. A beth am Max? Mae e’n llwyddo i gusanu rhywun arall, ond rhywun annisgwyl.

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu