Main content

Ymwelwyr Blewog

Mae Lara yn cyrraedd yn barod i gerdded, ond gyda 'i chorff wedi cuddio o'i chorun i'w thraed. Pam felly? Cywilydd oherwydd mae ganddi flew o dan ei cheseiliau ac ar ei choesau.

Mae hi’n noson cyn i’r ffrindiau fynd ar daith gerdded i'r fforest gyda gweddill y dosbarth, ac mae Lara (12) yn brolio am ei dillad newydd hyfryd. Mae’r bechgyn yn cwestiynu pam mae hyn yn bwysig ac mae Akira (12) yn cytuno - cerdded maen nhw, nid cymryd rhan mewn sioe ffasiynau! Mae Monica (11) yn cefnogi Lara; wedi’r cyfan, does dim byd o’i le ar edrych dy orau. Drannoeth, mae Lara yn cyrraedd yn barod i fynd i gerdded, ond mae hi wedi cuddio ei chorff o'i chorun i'w thraed. Mae pawb wedi synnu; ai dyma’r dillad newydd hyfryd? Mae’r tywydd yn chwilboeth - fydd hi ddim yn boeth? O’r diwedd, mae Lara yn tynnu ei thop llewys hir oddi amdani ac yn dangos i Monica ac Akira fod ganddi flew o dan ei cheseiliau ac ar ei choesau. Mae ganddi gymaint o gywilydd, ond dweda Akira fod ganddi hithau flew yn yr un lle hefyd, ac nad ydy hynny’n rhywbeth i boeni amdano. Mae Lara’n gweld Tony (13) yn pwyntio ati ac mae hi’n meddwl ei fod wedi gweld ei cheseiliau blewog ac wedi dweud wrth weddill y bechgyn. Mae hi'n mynnu ei bod am gael gwared ar y blew, ac felly mae ei ffrindiau’n ei helpu i wneud hynny. Pan fydd Lara’n sôn am y peth wrth Tony, sylweddola nad oedd hyd yn oed wedi gweld y blew; ar fin canmol ei dillad newydd oedd Tony!

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu