Main content

Amgylchiadau Anodd

Mae Gabriel wedi cael breuddwyd wlyb ac yn trafod hyn gyda Tony a Llion. Mae'r un peth wedi digwydd i Llion ond dyw Tony erioed wedi cael un.Mae fe鈥檔 teimlo allan ohoni.

Mae Gabriel (13) yn breuddwydio am y merched yn y gr诺p a'i athrawes, ac yn deffro mewn panig i ddarganfod ei fod wedi cael breuddwyd wlyb. Mae Gabriel a Tony (13) yn sleifio allan gyda'i gynfas ac yn mynd 芒 hi i'r olchfa, lle maen nhw'n gweld Llion (13). Mae Llion wedi cael yr un broblem ond dydy e ddim mor bryderus 芒 Gabriel. Mae Tony'n teimlo allan ohoni - dydy e erioed wedi cael breuddwyd wlyb ond mae'n smalio ei fod wedi. Ar 么l i Tony bwyso arno, mae Gabriel yn datgelu pwy oedd yn ei freuddwyd. Ar yr union adeg honno, mae Monica'n cerdded heibio ac yn clywed ychydig o'r sgwrs, gan wneud iddi feddwl fod Gabriel yn ffans茂o un o'r merched. Mae Monica (11) yn perswadio Lara (12) ac Akira (12) i'w helpu hi i hyrwyddo cyngerdd band Max (16). Er gwaethaf ei hymdrechion i ymddwyn yn ddidaro, mae Lara wastad yn gwneud rhywbeth sy'n profi i Max mai hi ydy ei ffan fwyaf. Cyn y cyngerdd, mae Gabriel yn derbyn cyngor Llion, ac mae Tony'n teimlo'n well. Mae Lara'n sylweddoli pwy yn union oedd ym mreuddwyd Gabriel, ond mae hi'n cadw ei gyfrinach. Wedi'r cyfan, mae hi'n gwybod beth ydy teimlo embaras...

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu