Main content

Rheolau'r T欧

Akira yn cynnig lle i Monica aros dros nos. Ond dyw Monica ddim yn deall ffiniau a 'r ddau'n ffrio. Monica yn mynd cyn belled 芒 darllen dyddiadur Monica.

Ar 么l bod yn ymarfer ar gyfer drama'r ysgol, mae Monica (11) yn datgelu bod ganddi froetsh lwcus, mae gan Lara (12) ddarn o arian lwcus ac mae Tony (13) yn datgelu i bawb mewn neges destun fod gan Gabriel (13) b芒r o dr么ns lwcus! Mae Gabriel yn ddig ond, drwy garedigrwydd, dydy e ddim yn datgelu fod gan Tony dedi! Mae'r teulu mae Monica yn aros gyda nhw ym Mhatagonia yn mynd i ffwrdd am y penwythnos, ond gan na chaiff hi fethu drama'r ysgol, mae'n rhaid iddi aros dros nos gydag un o'i ffrindiau. Mae Akira (12) yn cynnig lle iddi, ond mae hi'n dysgu bod gwahodd Monica draw yn gwahodd helynt. Dydy Monica ddim fel petai'n deall ffiniau a phan mae hi'n cael ei gwthio i'r pen gan ymateb oriog Akira, mae Monica'n mynd cyn belled 芒 darllen ei dyddiadur hi. Mae Lara wedi cyrraedd pen ei thennyn. Mae Akira a Monica yn beio ei gilydd ac yna'n troi ar Lara am gymryd ochrau wrth iddi geisio eu hannog i gyfaddawdu. Ar ben hynny, mae'r tensiwn rhwng Gabriel a Tony yn parhau. Mae Lara'n cael ei gorfodi i fod yn onest 芒'i ffrindiau am eu ffraeo a'u camymddwyn. Mae'n rhaid i Tony hefyd wneud rhywfaint o ymddiheuro.

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu