Main content

Torri'r Garw

Mae sesiwn 'Dangos a Dweud' yn cael ei chynnal yn yr ysgol ac mae'r ffrindiau i gyd yn trafod pa bynciau maen nhw'n mynd i siarad amdanyn nhw. Mae ar Lara (12) ofn gwneud ei chyflwyniad hi; er ei bod yn teimlo'n hyderus am ei phwnc, dydy hi ddim yn teimlo'n hyderus am siarad o flaen pawb. Mae Tony (13) a Monica (11) yn llawn cyffro am eu cyflwyniadau 'unigryw', ond dydy'r cyffro ddim yn para pan maen nhw'n darganfod eu bod wedi dewis yr un pwnc! Nid Lara ydy'r unig un sydd ag ofn gwneud cyflwyniad. Mae Llion (13) mor ofnus nes ei fod yn penderfynu peidio 芒 chymryd rhan, ac mae Lara yn darganfod pam. Mae llais Llion yn torri ac mae ganddo gywilydd o'r ffordd mae ei lais yn gwichian. Penderfyna Lara os nad ydy Llion yn mynd i siarad, na fyddai hithau'n gwneud 'chwaith. Sylweddola Llion y byddai'r ddau mewn helynt wedyn, felly mae'n cytuno i wneud ei gyflwyniad. Mae Lara yn ei annog i fod yn onest a diffuant. Gyda'i gilydd, maen nhw'n penderfynu wynebu'r dosbarth ac wynebu eu hofnau.

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu