Main content

Nofio'n Erbyn y Llif

Gabriel yn gadael ei ffrindiau i lawr trwy beidio ymddangos ar gyfer y gala nofio. Ond gan eu bod yn ffrindiau, maen nhw i gyd yn maddau i'w gilydd yn hawdd.

Mae ysgolion yr ardal leol yn cynnal gala nofio ac mae'r gr诺p o ffrindiau'n cymryd rhan; Llion (13) ydy capten y t卯m, ac mae Tony (13), Gabriel (13) ac Akira (12) yn rhan o'r t卯m hefyd. Ond mae problem; mae Gabriel yn teimlo'n hollol effro gyda'r nos, yn aros ar ei draed yn hwyr ac felly'n cysgu'n hwyr yn y bore. Yn yr ymarfer, mae Monica (11) yn llawn cyffro am gael cymryd lle Gabriel sy'n hwyr yn cyrraedd. Ond pan mae Monica ar fin nofio, mae Gabriel yn cyrraedd ac mae Monica yn gorfod mynd yn 么l ar y fainc. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ac mae Monica'n gadael wedi digio. Ar ddiwrnod y ras, er gwaethaf ymdrechion Tony i sicrhau bod Gabriel yn cyrraedd ar amser, dydy Gabriel ddim yn cyrraedd y pwll. Pan fydd ar Llion a gweddill y t卯m angen Monica, mae ei balchder yn dweud wrthi hi i beidio 芒 helpu ei ffrindiau. Ond mae Monica'n ysu am gael nofio, a chyn bo hir mae hi yn y pwll yn rasio yn erbyn y timau eraill. Yn anffodus, dydyn nhw ddim yn ennill, ond mae'r ffrindiau'n sylweddoli beth oedd yn y fantol mewn gwirionedd. Mae Gabriel wedi siomi ei ffrindiau, ac roedd y lleill yn rhy brysur yn meddwl am y gala nofio i ystyried teimladau Monica. Ond gan eu bod yn ffrindiau, maen nhw i gyd yn maddau i'w gilydd yn hawdd. Wedi'r cyfan, does neb yn berffaith.

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu