Main content

Mae Cariad yn Boen

Mae Tony鈥檔 ceisio denu sylwi Brenda trwy anfon fideo ohono fe鈥檔 canu c芒n serchus iddi. Yn anffodus mae pawb yn y dosbarth yn derbyn y fideo. Mae Brenda 'n ypset.

Mae Tony (13) wedi disgyn am Brenda (12), merch o'r ysgol. Yn ddiarwybod i'w ffrindiau, mae'n penderfynu datgan ei deimladau yn y gobaith na fydd Brenda'n gallu dweud na. Mae'n brysio adref, yn recordio ei hun yn canu c芒n gariad arbennig ac yn e-bostio鈥檙 fideo at Brenda ar unwaith. Y diwrnod canlynol, mae Brenda yn agor y neges, ynghyd 芒 phawb arall yn y dosbarth; roedd Tony wedi anfon ei fideo at bawb mewn camgymeriad! All Brenda ddim credu ei fod wedi gwneud hyn; mae hi'n gynddeiriog, ac yn rhuthro allan mewn tymer gan adael Tony yn teimlo'n fach a digalon. Ceisia Llion (13) a Gabriel (13) ddangos iddo fod ei fideo wedi mynd dros ben llestri a bod ei rannu gyda'r dosbarth wedi codi cywilydd ar Brenda. Ond dim ond teimlo trueni drosto'i hun mae Tony ac na fydd byth yn gallu dod dros hyn. Mae Lara (12), Akira (12) a Monica (11) yn gweithio'n brysur ar eu haseiniad i gynhyrchu dyddiadur fideo, pan maen nhw'n dod o hyd i Brenda'n llefain yn y tai bach. Maen nhw'n siarad gyda hi am yr hyn ddigwyddodd, ac er ei bod yn dal yn bryderus, mae Brenda'n dechrau sylweddoli nad oedd Tony wedi codi cywilydd arni'n fwriadol. Mae Tony'n ceisio magu hyder i ymddiheuro i Brenda; efallai nad oes ganddo fawr o obaith bod yn gariad iddi hi ond o leiaf mae'n cael cyngor cyfeillgar ganddi ar sut orau i blesio merch y tro nesaf.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu