Main content

Dal i Dyfu?

Ddim yn hapus yw Monica wrth iddi amau Lara ac Akira o newid y pwnc am eu bod yn meddwl nad ydy hi'n ddigon aeddfed i gyfrannu at eu sgwrs nhw. Pryd fydd hi'n tyfu lan?

Mae Monica (11) ar fin dathlu pen-blwydd arall, ond caiff ei siomi pan fydd ei mam yn anfon llun ati sy'n dangos ei bod "heb newid dim". Mae hi'n fwy digalon byth wrth iddi amau Lara (12) ac Akira (12) o newid y pwnc am eu bod yn meddwl nad ydy Monica yn ddigon aeddfed i gyfrannu at sgwrs am blorod a bechgyn. A phan mae hi'n gweld ei ffrindiau allan hebddi hi, penderfyna fod hynny am nad ydyn nhw eisiau cael eu gweld gyda merch fach. Penderfyna ddangos iddyn nhw pa mor aeddfed ydy hi mewn gwirionedd. Ond, wrthi'n trefnu parti syrpréis yn yr ysgol ar gyfer ei phen-blwydd y diwrnod canlynol y mae gweddill y ffrindiau. Mae Tony (13) yn gwylio Gabriel (13) yn codi cawell o ddiodydd heb drafferth ar ôl iddo fethu ei symud ei hun. Dechreua gymharu ei freichiau tenau ef gyda siâp mwy cyhyrog Gabriel. Drannoeth, mae Monica'n hwyr yn cyrraedd y bws. Ar y funud olaf, mae hi'n cyrraedd yn gwisgo dillad a cholur ei 'mam ym Mhatagonia' nes ei bod bron yn amhosibl i unrhyw un ei hadnabod. Mae Tony a phawb ar y bws yn gwneud hwyl am ei phen. Yn yr ysgol, mae Monica yn ei dagrau, tra bod Lara ac Akira yn ceisio ei helpu i sylweddoli nad oes angen iddi boeni – bydd hi'n datblygu yn ei hamser ei hun. Maen nhw'n ei pherswadio i ddod i'r 'stafell ddosbarth lle mae hi'n gweld pawb yn aros amdani yn y parti syrpréis. Ymddiheura Tony gan sibrwd cyfrinach i Monica – roedd wedi treulio hanner y noson flaenorol yn codi pwysau i geisio cryfhau ei gyhyrau a heddiw dydy e ddim yn gallu codi cwpan heb sôn am gawell o ddiodydd! Mae'r ddau'n cael moment o ddeall ei gilydd, a sylweddola Monica ei bod hi'n iawn fel y mae hi.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu