Main content

Parti Merched yn Unig

Mewn gem ‘ Cyfrinachau’ mae Gabriel yn cyfaddef fod e’n anhapus oherwydd mae fe’n gwrido weithiau. Mae emosiynau Akira dros y lle, ac mae’n dechrau crio. PMS, efallai?

Mae'r merched yn mwynhau cael parti 'merched yn unig'. Mae Monica (11) a Lara (12) yn cael amser wrth eu bodd ond dydy Akira (12) ddim fel petai hi mewn hwyliau cystal ag arfer. Gan nad ydyn nhw eisiau colli'r hwyl, mae Tony (13) a Gabriel (13) yn penderfynu dod i'r parti heb wahoddiad. Wrth i'r bechgyn ymuno yn y parti, daw'n amlwg fod rhywbeth yn poeni Akira - mae hi'n ddiserch a sarrug ac yn gwneud hwyl am ben Gabriel am fynd yn goch pan fydd e'n nerfus neu'n teimlo cywilydd. Er mwyn ceisio lleddfu'r sefyllfa, awgryma Monica chwarae gêm 'Cyfrinachau', felly eistedda'r criw i chwarae'r gêm. Ar ôl cael tipyn o hwyl, mae Gabriel yn cyfaddef ei fod yn casáu’r ffaith ei fod yn gwrido cymaint, gan ddweud ei fod wastad yn meddwl bod pobl yn chwerthin arno pan mae'n gwrido. Wrth glywed hyn, mae Akira yn beichio crïo ac yn rhedeg i'r 'stafell ymolchi. Teimla Akira'n ofnadwy am watwar Gabriel. Mae Lara a Monica yn cytuno bod emosiynau Akira dros y lle, ac maen nhw'n esbonio efallai ei bod ar ei misglwyf. Maen nhw'n esbonio mai tyndra cyn misglwyf, neu PMS, sydd ar fai am ei hymddygiad - dydy hi ddim yn berson drwg go iawn. Wrth i Lara a Monica siarad ag Akira, mae Tony a Gabriel yn cael sgwrs galon-agored. Llwydda Tony i godi calon Gabriel gan wneud iddo ymlacio am ei broblem wrido. Daw'r parti i ben ar nodyn hapus.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu