Main content

Dw'i Isho Bod yn Enwog!

Ydy amser Monica wedi dod? Wastad eisiau bod yn gyflwynydd teledu ac mae鈥檙 dosbarth yn cael gwneud fideo o鈥檌 fywydau. Ond mae鈥檔 dysgu fod byd y seren ddim yn bopeth mae鈥檔 edrych.

Yn yr ysgol mae'r dosbarth yn cael y dasg o wneud fideo am eu bywyd a'u profiadau mewn ysgol ryngwladol. Mae Gabriel (13) wrth ei fodd pan ddaw'r seren Mandy Minstrel i ddangos i'r dosbarth sut mae gwneud fideo da. Mae Monica (11) wedi cyffroi drwyddi, oherwydd mae hyn yn gyfle iddi roi cynnig ar wneud ei swydd ddelfrydol - sef bod yn gyflwynydd teledu. Fodd bynnag, wrth i'r gr诺p baratoi eu fideo, daw'n amlwg fod Monica'n troi'n dipyn o diva; dydy hi ddim yn gwrando ar y lleill ac mae hi eisiau cael y sylw i gyd. Dim ond pan fo Monica'n gweld Mandy heb ei dillad crand a'i cholur y mae hi'n sylweddoli nad ydy enwogrwydd mor hawdd ag y mae'n ymddangos. Esbonia Mandy fod ei swydd yn ymwneud 芒 gweithio fel rhan o d卯m a gweithio'n galed, ac efallai y byddai'n well gan Monica wneud rhywbeth mae hi wir yn ei fwynhau - fel cerddoriaeth! Gan sylweddoli ei chamgymeriad, mae Monica yn ymddiheuro i'w ffrindiau. Yn y cyfamser mae gweddill y gr诺p yn gwylio'r fideo ac yn sylweddoli ei fod yn drychinebus. Awgryma Monica eu bod yn troi'r hyn maen nhw wedi ei ffilmio i mewn i fideo cerddoriaeth. Gydag ychydig o help gan ei ffrindiau a thrwy wneud beth mae hi wrth ei bodd yn ei wneud, mae hi'n llwyddo i achub y dydd.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu