Main content

Cwympo Mas

Mae'n ddiwrnod y prawf iaith ac mae Tony wedi deffro mewn tymer drwg iawn ac yn teimlo popeth i'r byw. Yn ystod y diwrnod, mae'n mynd yn fwy a mwy dig tuag at ei ffrindiau.

Mae'n ddiwrnod y prawf iaith ac mae Tony (13) wedi deffro mewn tymer drwg iawn. Mae Gabriel (13) a Llion (13) yn cael hwyl fel arfer, ond mae Tony yn teimlo popeth i'r byw. Yn ystod y diwrnod, mae Tony'n mynd yn fwy a mwy dig tuag at ei ffrindiau. Pan ddaw ei gyfle i wneud y prawf, mae'n gwneud smonach o bethau. Yn y cyfamser, mae Monica (11) yn benderfynol o wneud cacennau bach gorau'r byd, ac yn mynd ar nerfau Lara (12) ac Akira (12). Dechreua Monica'n dda, ond yn fuan iawn penderfyna weithio'n 么l ei greddf yn lle darllen y rys谩it. O ganlyniad, mae'r cacennau bach yn erchyll. Er mwyn peidio 芒 brifo ei theimladau, mae Lara, Akira, Gabriel a Llion yn esgus mai'r cacennau bach ydy'r rhai gorau iddyn nhw eu blasu erioed. Ar 么l y prawf, mae Tony mor ddig, mae'n troi ar Monica. Dyweda wrthi mai ei chacennau bach hi ydy'r rhai gwaethaf y mae erioed wedi'u blasu. Sylweddola Tony ei fod wedi mynd yn rhy bell wrth i'w ffrindiau droi yn ei erbyn. Dydy e ddim yn deall beth sy'n digwydd; mae ei hormonau mor anwadal. Yn raddol, mae Tony yn profi i'r gr诺p nad oedd wedi bwriadu brifo teimladau Monica ac maen nhw'n maddau iddo am ei ymddygiad; mae pawb yn cael diwrnod gwael weithiau, ac mae hynny'n rhan o dyfu i fyny.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu